Strategaeth Tirwedd
-
Ynglyn â
-
Dogfennau i'w lawrlwytho
Yn 1999, comisiynodd Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM) a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) asesiad tirwedd a arweiniodd at Strategaeth Tirwedd Ynys Môn 1999.
Roedd y strategaeth yn seiliedig ar fethodoleg LANDMAP Cyngor Cefn Gwlad Cymru a oedd yn creu dull safonol o ran asesu tirweddau yng Nghymru. Amcanion y strategaeth oedd cynorthwyo i reoli’r AHNE a bwydo i mewn i Gynllun Datblygu’r awdurdod.
Yn sgil y broses asesu, fe gafodd 15 o Ardaloedd Cymeriad Tirwedd eu creu ar draws Ynys Môn.
Adolygu a diweddaru
Cafodd LANDMAP, a gyflwynwyd yn 1997, ei weddnewid yn 2003 pan gyflwynwyd methodoleg meincnodi a phroses sicrwydd ansawdd er mwyn sicrhau cysondeb, cywirdeb a hygyrchedd gwybodaeth am dirweddau yng Nghymru. Cwblhawyd y broses sicrwydd ansawdd erbyn dechrau 2009 yn Ynys Môn. Gellir cael mwy o wybodaeth am LANDMAP ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Mewn ymateb i’r newidiadau o fewn methodoleg LANDMAP, penodwyd Ymgynghorwyr i gynorthwyo CSYM i gynnal adolygiad o’r Ardaloedd Cymeriad Tirwedd a gafodd eu cynnwys yn yr asesiad tirwedd gwreiddiol.
Lluniwyd diweddariad o’r Strategaeth Tirwedd i ymgorffori’r data LANDMAP diweddaraf a nodi materion rheoli a dylunio allweddol ar gyfer pob Ardal Cymeriad Tirwedd. O ganlyniad, bu cynnydd yn nifer y fath ardaloedd ar yr Ynys i 18.
Gellir gweld y Strategaeth Tirwedd ddiweddaraf (2011) gan ddilyn y tab ‘dogfennau i’w lawrlwytho’ uchod.





