Y Gwasanaeth Cynllunio - Rheoli Adeiladu
-
Ynglyn â
-
Gwefannau
Os ydych am wneud gwaith adeiladu ar eiddo efallai bydd rhaid i chi gydymffurfio a’r rheolau adeiladau.
Mae Rheoli Adeiladau yn delio gyda dyletswyddau statudol o dan Deddf Adeiladu 1984, Rheoliadau Adeiladu 2000 a deddfrwiaeth. Mae’r ddeddfwriaeth yn gosod allan safonau derbyniol o adeiladu a bydd y gwasanaeth yn sicrhau fod y safonau hyn yn cael eu cyrraedd, trwy siecio a chymeradwyo dyluniadau a chyfrifiadau yn ogystal ag arolygu gwaith sydd yn mynd ymlaen. Rydym hefyd yn penderfynu ar amrywiaeth o geisiadau rheoliadau adeiladu sydd yn cynnwys aneddiadau newydd, estyniadau domestig a masnachol, newid defnydd a hefyd ddatblygiadau masnachol a diwydiannol.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig:
- trafodaethau cyn gwneud cais
- cymorth gydag ymholiadau cyffredinol ar faterion rheoliadau adeiladu
- ymgynghori yn uniongyrchol gydag adrannau eraill o fewn yr Awdurdod ar geisiadau a gyflwynwyd
- cyngor wrth delio a thir wedi ei lygru
- ymgynghori gyda’r swyddog tân pan yn delio ag adeiladau a ddynodwyd
- ymchwilio i strwythurau peryglus
- Cynllun Cymeradwyo LANTAC Math Cenedlaethol
Gall copiau o’r ffurflenni perthnasol ar ffioedd arolygu gael eu lawr lwytho ar gyfer defnydd y cwsmer, gweler y ddolen isod. ac fe ddylid defnyddio’r rhain i gyflwyno ceisiadau.
Ar hyn o bryd ni all ceisiadau cael eu cyflwyno yn electronig, fodd bynnag, mae’r gwasanaeth wedi ymrwymo i fynd ar ol cyflwyno ‘ar-lein’.
Sut i gyflwyno eich cais:
- trwy’r post (peidiwch ag anfon arian parod - sieciau yn unig os gwelwch yn dda)
- mewn person wrth dderbynfa’r Gwasanaeth Cynllunio
Os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu adnewyddu, efallai y bydd angen i chi roi gwybod i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) a gallai fod dyletswyddau eraill gennych hefyd.
Am mwy o wybodaeth ar reoliadau cynllunio a rheoli adeiladau, gwbeud cais ar lein am hawl cynllunio, apelio yn erbyn penderfyniad a darganfod mwy am ddatblygiadau gweler safle we y Porth Cynllunio






