Gwasanaethau'r Cyngor:

Ffurflen cyflwyno'r holl gynlluniau

Rhaid i’r ffurflen hon gael ei llenwi gan y sawl sy’n bwriadu gwneud y gwaith adeiladu neu gan yr asiant.

Er mwyn gwneud cais rhaid i chi:

  •  printio’r ffurflen a’i chwblhau yn ysgrifenedig

Gwnewch yn siwr bod eich cais yn cynnwys:

  • 1 copi o’r ffurflen gais wedi’u harwyddo
  • gwybodaeth ategol (mewn achosion priodol)
  • y ffi ymgeisio

Cyngor:

Bydd nodiadau cyfarwyddo yn gynwysedig ar bob ffurflen er mwyn eich cynorthwyo i gwblhau’r ffurflen gais. Cofiwch ofyn a ydych angen cymorth i lenwi’r ffurflen - dilynwch y linc ‘gweler hefyd’ ar waelod y dudalen hon am ein manylion cyswllt.

Tâl:

Dilynwch y linc berthnasol isod am restr o ffioedd. Mae’n bosib talu gydag arian neu siec. Sieciau yn daladwy i “Cyngor Sir Ynys Môn” os gwelwch yn dda.

Sut i gyflwyno eich cais:

  • trwy’r post (peidiwch ag anfon arian parod - sieciau yn unig os gwelwch yn dda)
  • mewn person wrth dderbynfa’r Gwasanaeth Cynllunio

Dilynwch y linc gweler hefyd “Cysylltu â’r Gwasanaeth Cynllunio” ar waelod y dudalen hon ar gyfer ein manylion cyswllt llawn ac oriau agor.

Am wybodaeth ar sut i gyraedd ein swyddfa, dilynwch y linc gweler hefyd  “Ble mae swyddfeydd y Gwasanaeth Cynllunio?”

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynllunio

Adran Amgylchedd a Technegol
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Ffôn:Derbynfa: 01248 752428
Rheoli Adeiladu: 01248 752222
Swyddog Prosiect AHNE: 01248 752138
Prosiect Bioamrywiaeth: 01248 752439
Ffacs: 01248 752412
Email:cynllunio@ynysmon.gov.uk
Email:ahne@ynysmon.gov.uk
Email:bioamrywiaeth@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 24 Hyd 2008 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?