Anghenion Addysgol Arbennig - datganiad diogelu data
Mae Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2001 a ddaeth i rym ar 1af Ebrill, 2002 yn gosod dyletswydd ar AALlÆau i gyhoeddi gwybodaeth am faterion yn ymwneud â darparu addysg i blant gydag anghenion addysgol arbennig.
I fanylu, mae’n ofynnol i Awdurdodau Addysg Lleol:
Gyhoeddi:
- Eglurhad o’r agweddau hynny o ddarpariaeth addysg arbennig y disgwylir i ysgolion a gynhelir eu hariannu o’u cyllideb ddatganoledig, a’r elfen y disgwyliant ei chyllido eu hunain - Adran 1.
- Gwybodaeth am amcanion eang polisi’r AALl ar anghenion addysgol arbennig, ynghyd ag unrhyw gamau penodol maent yn cymryd ar faterion yn ymwneud ag AAA (Adran 2 - i’w gyhoeddi yn ystod yr Haf)
Adolygu’r wybodaeth honno’n rheolaidd.
Lle bo newid arwyddocaol yn y wybodaeth, ei hadolygu’n unol â’r newid hwnnw a chyhoeddi’r wybodaeth wedi ei hadolygu.
Darperir copi ysgrifenedig o’r wybodaeth i’r Awdurdodau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol perthnasol, ysgolion a gynhelir yn yr Awdurdod ac unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, drwy’r post, drwy ddulliau cyfathrebu electronig neu unrhyw ddull arall y cytunir arno gyda’r Awdurdod. Bydd y wybodaeth hefyd ar gael ar unrhyw safle ar y We a gynhelir gan yr Awdurdod. Cyhoeddir gwybodaeth wedi ei hadolygu mor fuan ag y bo’n ymarferol resymol wedi adolygu.
Adran 1
Ceir yma eglurhad ar y rhan o’r ddarpariaeth addysgol i blant gydag anghenion addysgol (ond heb ddatganiad) mae’r Awdurdod Addysg Lleol yn disgwyl fel rheol i ysgolion a gynhelir ei chyllido o’u cyllidebau datganoledig, a pha elfennau maent yn disgwyl fel rheol iddynt gael eu cyllido o gronfeydd canolog.
Mae dwy elfen i’r cyllid a ddatganolir i ysgolion ar gyfer darpariaeth anghenion addysgol arbennig. Disgwylir i ysgolion gyfeirio cyfran o’u dyraniad cyffredinol tuag at gyllido anghenion addysgol arbennig. Hefyd dyrennir swm ychwanegol ar gyfer cyllido AAA yn unol â fformiwla sy’n adlewyrchu’r angen mewn ysgol. Pennir y swm a ddyrennir drwy fformiwla yn dilyn awdit blynyddol o angen a gynhelir yn ystod tymor yr Hydref.
Yr ysgol fydd yn gyfrifol am gyllido pob darpariaeth ar gyfer disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig (ond heb ddatganiad) o’u cyllideb fel y disgrifir hi uchod, heblaw am y darpariaethau canlynol a gyllidir o gronfeydd canolog yr Awdurdod:
- Darpariaeth a bennir drwy drefniadau cyfnod 3 yn dilyn asesiad gan seicolegydd addysg.
- Lleoliadau llawn amser dros dro yn yr Uned Gyfeirio Disgyblion i ddisgyblion CA2 gydag anghenion ymddygiadol ac emosiynol.
- Darpariaeth o’r Uned Cyfeirio Disgyblion a roddir yn yr ysgolion prif lif i ddisgyblion CA2 a 3 efo anghenion ymddygiad ac emosiynol.
- Darperir elfennau penodol o’r cwricwlwm amgen i ddisgyblion CA4 a adnabyddir yn unol â meini prawf yr Awdurdod.
Ceir rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth drwy gysylltu â’r Adran Addysg.




