Beth yw ymweliadau safle?
Os y byddwch yn cyflwyno rhybudd adeiladu gallwch ddechrau gweithio ar y safle 24 awr wedi i rybudd fod gwaith i’w ddechrau fod wedi ei gyflwyno, yn hytrach na’r cyfnod statudol o 48 awr.
Fodd bynnag, rhaid i chwi roi’r ‘ffi’ cywir gydag rhybudd.
Bydd swyddogion yn arolygu’r gwaith ar y safle i sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Adeiladu. Yn fwyaf arbennig bydd y swyddogion yn edrych ar y canlynol :
- cloddio sylfeini
- sylfeini wedi cwblhau
- diogelwch rhag tân
- systemau draenio
- cwrs rhag tamp a chroen
- gwaith brics a gwaith blocs i waliau
- insiwleiddiad thermal i waliau, lloriau a thoeau
- elfennau strwythurol
- mesurau rhag y tywydd
- ffliwiau a fentiau i osodiadau
- awyru digonol
- grisiau, pen grisiau a galerïau
- gwydro diogelwch
- mynediad i a defnydd o adeiladau
- cyfleusterau i bobl anabl
- mesurau rhag swn
- diogelwch trydanol
Byddwn yn gwneud gwaith archwilio i sicrhau fod deunyddiau addas wedi eu defnyddio a bod y gwaith sydd yn dod o dan y Rheoliadau Adeiladu wedi ei wneud i safon resymol.
Mae’r gwasanaeth yn ceisio bod mor hyblyg ag sy’n bosibl yn ei agwedd yn ystod dyddiau’r wythnos a thra bydd y mwyafrif o’r ymweliadau yn cael eu cynnal rhwng 9am a 5pm fe ddylai cwsmeriaid gysylltu â’r swyddfa am gyngor pellach ynglyn ag arolygiadau y tu allan i’r oriau hyn. Os bydd arnoch eisiau arolygiad ar yr un diwrnod rhaid gwneud cais i’r swyddfa cyn 10am.
Nid oes rhaid i’r gwaith ar y safle fod yn hollol fel ag sy’n cael ei ddangos ar y cynlluniau a gymeradwywyd. Fe ellir cytuno ar newidiadau bychan gyda’r swyddogion rheoli adeiladu fel bo’r gwaith yn mynd yn ei flaen cyn belled â bod y gwaith gorffenedig yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Adeiladu. Os oes angen newidiadau mawr efallai y bydd rhaid cyflwyno cais cynllunio o’r newydd.
Os byddwch yn gwneud cais cynllunio llawn, bydd y gwasanaeth yn anfon y cyfrif i chwi am y ffi arolygu wedi i’r arolygiad cyntaf o’r safle ddigwydd. Bydd y gwasanaeth yn cyflwyno bil am y taliadau yn brydlon fel y gallwch wneud y trefniadau angenrheidiol.




