Beth yw'r fforwm mynediad i ysgolion?
Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi sefydlu Fforwm Mynediad ar gyfer ymgynghori a thrafod materion sy’n codi o’r trefniadau mynediad.
Mae prifathrawon, llywodraethwyr, yr Awdurdod Addysg, asiantaethau sy’n cefnogi disgyblion ag anghenion addysgol arbennig ac awdurdodau addysg esgobaethol yn cael eu cynrychioli ar y Fforwm. Gobeithir y bydd y Fforwm yn fodd i ddatblygu consensws gwirioneddol yn lleol a bydd hefyd yn sicrhau fod trefniadau mynediad yn cydweddu a materion perthnasol eraill megis cynllunio lleoedd mewn ysgolion darparu ar gyfer plant ac anghenion arbennig, newid rhifau mynediad, dalgylchoedd a.y.b.




