Beth yw'r Rheoliadau Adeiladu?
Caiff y Rheoliadau Adeiladu eu llunio o dan bwerau a ddarparwyd yn Neddf Adeiladu 1984, ac maent yn gymwys yng Nghymru a Lloegr.
Yr argraffiad cyfredol o’r rheoliadau yw ‘Y Rheoliadau Adeiladu 2000’ (fel y’u newidiwyd) ac mae’n ofynnol i’r rhan fwyaf o brosiectau adeiladu gydymffurfio â hwy. Maent yn bodoli er mwyn yw sicrhau iechyd a diogelwch pobl mewn pob math o adeiladau ac yn y cyffiniau (h.y. domestig, masnachol a diwydiannol). Maent yn darparu hefyd ar gyfer cadwraeth ynni, a mynediad i adeiladau a’r defnydd ohonynt.
Mae’r Rheoliadau Adeiladu yn cynnwys gwahanol adrannau sy’n ymdrin â diffiniadau a gweithdrefnau, ac â’r hyn a ddisgwylir o ran perfformiad technegol gwaith adeiladu. Er enghraifft, maent yn:
- diffinio’r mathau o brojectau adeiladu, plymio a gwresogi sy’n cyfrif fel ‘Gwaith Adeiladu’ ac yn gwneud y rhain yn ddarostyngedig i’w rheoli o dan y Rheoliadau Adeiladu
- dweud yn benodol pa fathau o adeiladau sydd wedi’u heithrio o reolaeth o dan y Rheoliadau Adeiladu
- amlinellu’r trefniadau hysbysu sydd i’w dilyn wrth gychwyn, gwneud a chwblhau gwaith adeiladu
- amlinellu’r ‘gofynion’ y mae’n rhaid i’r agweddau unigol ar ddylunio a chodi adeiladau gydymffurfio â hwy er mwyn iechyd a diogelwch defnyddwyr yr adeilad, cadwraeth ynni, a mynediad i adeiladau a’r defnydd ohonynt




