Prosiect Datblygiad Amgylchedd Arfordirol Ynys Môn (2009 - 2013)
Mae’r gwaith o ddatblygu Prosiect Amgylchedd Arfordirol Ynys Môn yn ceisio harneisio a chefnogi datblygiad nodweddion arfordirol unigryw’r Ynys i fanteisio ar lefelau hamdden, adloniant a thwristiaeth rŵan ac yn y dyfodol.
Nod y Prosiect yw datblygu cyfleusterau ar y môr a’r glannau i sicrhau’r manteision a’r buddiannau economaidd mwyaf posib o arfordir Ynys Môn.
Gellir crynhoi’r gweithgareddau a fydd yn cael blaenoriaeth dan y Prosiect fel a ganlyn:
- mwyhau y safon a’r argaeledd o isadeiledd morwrol i ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl (uani yn lleol neu ymwelwyr) i gymryd rhan mewn gweithareddau hamdden;
- gwella cyfleoedd i bobl gael mynedfa i ardaloedd arfordirol, gan gynnwys gwella isadeiledd neu isadeiledd newydd;
- cofleidio asedau hanesyddol, diwylliannol ac amgylcheddol yr Ynys, drwy gwelliannau yn y ddarpariaeth o ddehongliad a gwybodaeth;
- gwella cyfleusterau ar yr arfordir i hybu a chefnogi clystyrau, cadwyni cyflenwad a chyfleoedd busnes;
I fanteisio’n llawn ar boblogrwydd gweithgareddau arfordirol yn Ynys Môn ar hyn o bryd ac i’r dyfodol ac i sicrhau y bydd modd gwireddu potensial economaidd yr arfordir, mae Cyngor Sir Ynys Môn yn credu’n gryf bod angen buddsoddiad sylweddol i wella, datblygu ac integreiddio nodweddion hamdden, adloniant a thwristiaeth unigryw’r Ynys.
Cyfanswm costau’r Prosiect yw £5,582,000, sy’n cynnwys cyllid a sicrhawyd o Raglen Cydgyfeiriant yr UE ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd; Adran yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru (yn cynnwys y rhaglen Môn a Menai); Cronfa Arian Cyfatebol a Dargedi Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Cyngor Sir.
Bydd y Prosiect yn gweithredu amrywiaeth o weithgareddau arloesol mewn lleoliadau strategol, allweddol o gwmpas arfordir Ynys Môn - gan wella safon ac argaeledd yr isadeiledd ar gyfer adloniant arfordirol i roi mwy o gyfleon i bobl (cymunedau lleol ac ymwelwyr) i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn lleoliadau allweddol ar hyd yr arfordir.
Disgwylir y bydd y prosiect, yn ystod y cyfnod o bedair blynedd y bydd yn rhedeg, yn:
- darparu isadeiledd adloniant arfordirol gwell ac/neu newydd;
- rhoi cymorth i fusnesau arforol lleol newydd a chyfredol
- gwella cyfleon cyflogaeth uniongyrchol ac/neu anuniongyrchol yn y sector hamdden arforol;
- darparu gwell cyfleon i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a fydd yn arwain at welliannau o safbwynt cynhwysiad cymdeithasol, iechyd a lles;
- gwella apêl ac enw da Ynys Môn fel cyrchfan i dwristiaid tra’n cyfrannu at ymestyn y tymor twristiaeth;
- darparu cyfleusterau i gynnal trefni a phentrefi arfordirol Ynys Môn;
- hyrwyddo ac ennyn diddordeb cryf lleol mewn hamdden arforol;
- gwneud y mwyaf o ddiwylliant a hanes arforol Ynys Môn (gan gynnwys yr iaith Gymraeg) ac ennyn balchder yn yr amgylchedd lleol.
Trwy ddatblygu’r amgylchedd naturiol eithriadol, bydd y prosiect yn gwella apêl ac enw da Ynys Môn fel cyrchfan i dwristiaid ac yn darparu cyfleusterau i gynnal safon trefi a phentrefi arfordirol yr ynys yn gyffredinol. Bydd y prosiect hefyd yn cynorthwyo ac yn annog busnesau i fanteisio’n llawn ar y cyfleon sylweddol fydd yn codi o weithgareddau arfordirol a hamdden arforol gyda photensial cydnabyddedig i dyfu.
Cyfle cyfartal ac arfer dda cynaliadwyaeth amgylcheddol
Cafodd holl weithgareddau refeniw a chyfalaf y prosiect eu datblygu yn unol â themâu trawsdoriadol y Rhaglen Cydgyfeiriant; tra bod y Tîm Prosiect yn rhoi sylw llawn i argymhellion cyfle cyfartal a chynaliadwyaeth amgylcheddol WEFO.




