Ariannu Ewropeaidd - Môn Ewrop

Cewch wybod ar y tudalennau yma sut mae Ynys Môn yn elwa o’r rownd bresennol o gefnogaeth ariannol Ewropeaidd drwy nifer o brosiectau sydd eisoes wedi eu cymeradwyo drwy Raglen Cydgyfeiriant yr UE.
Yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen gyllidol Amcan 1 a redodd o 2000-2006 a chafodd ganlyniad mewn buddsoddiad o 38.3 miliwn o gyllideb strwythurol UE mewn economi’r ynys, mae sylw nawr ar y genhedlaeth nesa o raglenni UE sy’n pontio rhwng 2007 a 2013.

Mae’r Rhaglen £1.4 biliwn Cydgyfeirio ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn cynrychioli lefel tebyg o fuddsoddiad i Amcan 1, a mwy na thebyg yw prif fuddsoddiad cyllid UE strwythurol diwethaf o’i fath yn economi Cymru. Mae’r rhaglen yn anelu at greu newid strwythurol economaidd mewn economïau dan berfformio wrth dargedu buddsoddiad i greu swyddi, denu buddsoddiad ac i adfywio ein cymunedau.
Mae’r Cynllun Datblygu Gwledig, gwerth £800 miliwn, 2007-2013 yn gweld symudiad mewn pwyslais y Polisi Amaethyddol Cyffredin at adeiladu cymunedau gwledig cynaliadwy ar gyfer y 21ain ganrif. Mae gweithgareddau a gyllidwyd at Ynys môn drwy’r rhaglen hon yn anelu at ymateb i’r newid mewn generadu cyfredol ac i greu dyfodol ffyniannus ar gyfer Môn wledig.

Mae gan y ddwy raglen ffocws ar agenda Lisbon ar gyfer buddsoddi mewn creu swyddi a thyfiant economaidd, ac agenda Gothenburg yn hybu datblygiad cynaliadwy ac c amddiffyn yr amgylchedd. Mae Ynys Môn mewn lle gwych i elwa o’r rhaglenni hyn ac mae prosiectau yn cael ei chymeradwyo ar sail barhaol sy’n dod a chanlyniadau cadarnhaol ar gyfer yr ynys.
Ceir nifer o ffynonellau gyllid eraill drwy Rhaglenni Cydweithredol INTERREG a Rhaglenni cyllidol Ewropeaidd sy’n gyraeddadwy drwy ddatblygu prosiectau gyda phartneriaid Ewropeaidd.
Am fwy o wybodaeth a chyngor am y materion uchod, ymwelwch â’r wefan hon yn rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf.
Cyllid cyfredol
Mae sylw nawr ar y genhedlaeth nesa o raglenni UE sy’n pontio rhwng 2007 a 2013.
Cyn llwyddiannau
Roedd Amcan 1 yr UE wedi cyfrannu tua £1.2 biliwn o nawdd Ewropeaidd i gicdanio’r economi.
Dolenni Ewropeaidd
Ein cyfeiriadur dolenni.
Cyfleoedd tendro
Nid yw ennill mynediad i Arian Ewropeaidd bob amser yn cynnwys arwain ar brosiect neu weithredu fel cyd-noddwr.







