Gwasanaethau'r Cyngor:

Cyfleoedd tendro

Nid yw ennill mynediad i Arian Ewropeaidd bob amser yn cynnwys arwain ar brosiect neu weithredu fel cyd-noddwr.

Gall sefydliadau yng Nghymru elwa ar arian Ewropeaidd drwy fidio i gyflwyno gweithgareddau prosiect yr Undeb Ewropeaidd drwy dendro cystadleuol. Ar ddiwedd Mehefin 2010, roedd dros 70% o brosiectau a gymeradwywyd yn defnyddio caffael ar gyfer cyflwyno gweithgaredd prosiect. Mae prosiectau a gymeradwywyd gydag ymarferion caffael wedi eu cwblhau wedi dyfarnu cytundebau cyflwyno gwerth bron i £165 miliwn hyd oddeutu 490 o sefydliadau, yn cynnwys 400 o sefydliadau sector preifat.

Mae pob rhybudd tendro ar gyfer prosiectau a’i ariennir gan yr UE wedi ei uwchlwytho ar y wefan. Fel y cyfryw, mae’r hen ddihareb “you have to be in it to win it” yn wir iawn pan ddeuir i gymryd mantais ar y cyfleoedd hyn, a chymhellir pob sefydliad a busnes lleol i ymaelodi â’r wefan hon a chofrestru eu manylion.

Er mwyn gweld pob rhybudd ar brosiectau a ariennir gan yr UE yn cynnwys rhybuddion cynnar, gwahoddiadau i weithdai a gwybodaeth ddefnyddiol arall, defnyddiwch y cyfarwyddyd hwn ar gyfleuster chwilio Gwerthwch i Gymru: www.gwerthwchigymru.co.uk

Mae’r Gwasanaeth Datblygu Cyflenwr Lleol hefyd ar gael i gynorthwyo busnesau lleol a grwpiau gwirfoddol yn benodol i dendro’n effeithlon. Mae’r gwasanaeth hwn a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cael ei gyflwyno gan Fenter a Busnes yng Ngogledd Orllewin Cymru.Gallant gynorthwyo gyda llenwi ffurflenni tendro a holiaduron rhag-gymhwyso; codi ymwybyddiaeth drwy gynnal nifer o ddigwyddiadau yn cynnwys Gweithdai Sut i Dendro,Cyfarfod â’r Prynwr a digwyddiadau Rhwydweithio.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’ch Arbenigwr Cyflenwad Lleol : Siôn Hughes
Rhif ffôn: 01248 672672
E-Bost: sion.hughes@menterabusnes.co.uk

Tîm Ewropeaidd Gofodol Ynys Môn

Uned Datblygu Economaidd
Canolfan Fusnes Môn
Parc Busnes Bryn Cefni
Llangefni
LL77 7XA
Ffôn: 01248 752435 / 752431
Ffacs: 01248 752 192
Ebost: teg@ynysmon.gov.uk

Cysylltwch â Canolfan Fusnes Ynys Môn

Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7XA
Ffôn: 01248 752480
Facs: 01248 752192
Ebost: datecon@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 31 Rhag 2010 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?