Y Ganolfan Gofal Plant Integredig
Pwrpas y prosiect yw adeiladu Canolfan Gofal Plant a Hyfforddiant Blynyddoedd Cynnar Integredig yn Llangefni.
Bydd y prosiect yn darparu gofal plant a hyfforddiant o safon trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, ac yn cynyddu gallu darpariaeth gwasanaeth lleol ym maes gofal plant.
Bydd darparu cyfleusterau o’r fath o fewn y gymuned yn diwallu’r taer angen am ddarpariaeth gofal plant sy’n bodoli yn yr ardal leol ac yn dileu rhwystrau i hyfforddiant a’r farchnad waith er mwyn rhoi budd economaidd a chymdeithasol ehangach.
Noddwr: Mudiad Ysgolion Meithrin
Cyfanswm cost: £2m
Cyfraniad gan Amcan 1 yr UE: £1m
Cysylltydd: Harri Jones
Ffôn: (01970) 639 639
Ebost: harri.jones@mym.co.uk




