Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun cofrestru a thrwyddedu Landlordiaid – Rhentu Doeth Cymru


Mae cynllun cofrestru a thrwyddedu Rhentu Doeth Cymru yn atal landlordiaid ac asiantau twyllodrus rhag gosod a rheoli eiddo yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi gwybod i landlordiaid, asiantau, yn ogystal â thenantiaid, o’u cyfrifoldebau a’u hawliau.

Mae Rhentu Doeth Cymru yn prosesu cofrestriadau landlordiaid ac yn rhoi trwyddedau i landlordiaid ac asiantau y mae angen iddynt gydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014.  Roedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu blwyddyn i’r rhai yr oedd angen iddynt gydymffurfio, wneud hynny heb berygl o wynebu canlyniadau. 

Mae’r grymoedd gorfodi dan y ddeddf bellach yn weithredol. Mae hyn yn golygu ei bod nawr yn drosedd i beidio â chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Os nad ydych wedi cydymffurfio eto ewch i Rhentu Doeth Cymru i ddarganfod eich camau nesaf.

 Am ragor o wybodaeth, gweler wefan Rhentu Doeth Cymru neu ffoniwch Rhentu Doeth Cymru ar 03000 133344.