Tir ac eiddo
Gall Cyngor Sir Ynys Môn gynnig nifer o safleoedd ac eiddo i ddibenion pori, busnes neu ddatblygu.
Mae gan y Cyngor Sir bortffolio o unedau, gweithdai, swyddfeydd ac adeiladau adwerthu i’w gosod - rhai bach a chanolig - yn amodol ar gyflwyno cais ffurfiol. Mae’r rhain ar gael ar delerau hyblyg ac am renti cystadleuol.
Gallwch chwilio am eiddo a thir yn ôl math neu yn ôl ardal, gweler y dolenni isod. Gallwch hefyd danysgrifio i’n porthiant rss drwy ddewis y tab oren.
Chwilio yn ôl ardal
View Tir ac Eiddo / Land and Property mewn map mwy
Chwilio yn ôl math o eiddo
Rhestr o eiddo masnachol ar gael
Mae gan y Cyngor Sir bortffolio o unedau, gweithdai, swyddfeydd ac adeiladau adwerthu i’w gosod - rhai bach a chanolig - yn amodol ar gyflwyno cais ffurfiol.
Rhestr o mân-ddaliadau amaethyddol ar gael
Mae gan y Cyngor nifer o fân-ddaliadau amaethyddol. Ar yr amod bod mân-ddaliadau ar gael, cynigir tenantiaethau busnes fferm i annog pobl i gael troed ar yr ystôl o ran y diwydiant amaeth lleol.
Tir ar werth
O bryd i’w gilydd, mae’r Cyngor yn cael gwared ar blotiau datblygu masnachol, plotiau adeiladu preswyl ac eiddo eraill nad yw eu hangen mwyach. Gellir prynu’r eiddo hyn trwy gyflwyno cais, trwy gytundeb preifat, trwy dendrau ffurfiol neu mewn arwerthiant cyhoeddus.




