Gwasanaethau'r Cyngor:

Trwyddedau

Mae’r cyngor yn gyfrifol am reoleiddio a gorfodaeth nifer o fathau gwahanol o drwydded.

Mae’r Tîm Trwyddedu yn rhan o’r Gwasanaeth Safonau Masnach sy’n gwneud gwaith gweinyddol a gorfodaeth ynghylch trwyddedu amryfal ddigwyddiadau, gan gynnwys:-

  • adloniant cyhoeddus, cerddoriaeth a dawnsio
  • gyrwyr a cherbydau hacni a cherbydau hurio preifat
  • gwenwynau a phetroliwm
  • lotrïau
  • casgliadau stryd

Rydym hefyd yn rhoi cyngor i fusnesau a thrigolion Ynys Môn ynghylch materion trwyddedu, yn ogystal ag archwilio ac ymweld ag eiddo trwyddedig a chymryd camau gorfodaeth ynghylch gweithgareddau nad oes trwydded ar eu cyfer neu yn erbyn y rheini sy’n torri amodau trwyddedau.

Portal Trwyddedu Ewropeaidd

EUGO

Mae’r Cyfarwyddyd Gwasanaethau Undeb Ewropeaidd yn anelu at cael gwared o rwystrau i fasnach croes ffiniau mewn gwasanaethau rhwng gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd yn gwneud yn haws i ddarparwyr gwasanaethau, yn arbennig busnesau bach a chanolig i gynnig eu gwasanaethau i gwsmeriaid mewn gwledydd Undeb Ewropeaidd eraill os yn sefydlu rhywle arall yn y UE neu yn darparu gwasanaethau o’r DU.

Am ragor o wybodaeth gweler y ddolen i’r daflen “Service Directive, Doing Business Made Easier” a’r safle we “Department for Business, Innovation and Skills - European Services Directive”.

Diweddariad diwethaf: 26 Tach 2010 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?