Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Trwyddedau - adeiladau alcohol ac adloniant


Os ydych yn dymuno gwerthu neu gyflenwi alcohol, bwyd poeth a diod gyda’r hwyr neu ddarparu adloniant cyhoeddus, bydd angen i chi wneud cais am drwydded safle i’w rhoi o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

Cwblhewch y ffurflen ar-lein a thalwch y ffi berthnasol, os gwelwch yn dda.

Talu’r ffi flynyddol am eich trwydded safle

Bydd angen i chi dalu ffi flynyddol am eich trwydded safle.

Mae’r ffi hon yn ddyledus bob blwyddyn ar yr un dyddiad ac y cafodd eich trwydded ei rhoi yn wreiddiol.

Os ydych yn methu â thalu eich ffi flynyddol ar y dyddiad gofynnol, neu cyn hynny, bydd rhaid i’r Awdurdod Lleol atal eich trwydded safle. Ni fydd modd i chi ymgymryd ag unrhyw weithgareddau trwyddadwy hyd nes y telir y ffi.

Mae’r ffi daladwy yn seiliedig ar werth ardrethol annomestig eich safle. Mae’r tabl isod yn nodi’r Bandiau a’r ffi flynyddol sy’n ddyledus. 

Band

A

B

C

D

E

Gwerth ardrethol annomestig

Dim i

£4,300

£4,301 i £33,000

£33,001 i £87,000

£87,001 i £125,000

£125,001 neu fwy

Ffi flynyddol

£70

£180

£295

£320

£350

 Cwblhewch y ffurflen ar-lein a thalwch y ffi berthnasol, os gwelwch yn dda.

Amrywiad

Os hoffech wneud unrhyw newidiadau i’r hyn sydd wedi cael ei awdurdodi gan eich trwydded mangre, gofynnir i chi wneud cais i amrywio’r drwydded a thalu’r ffi berthnasol. Gall newidiadau posibl gynnwys:

  • newid y mangre mae’r drwydded yn berthnasol iddi
  • ychwanegu caniatâd i werthu alcohol mewn trwydded mangre
  • ymestyn yr amser yn ystod y dydd a ganiateir i werthu alcohol
  • ychwanegu gweithgareddau trwyddedadwy
  • newid yr oriau a ganiateir i gwblhau gweithgarwch trwyddedadwy, a
  • newid, ychwanegu neu gael gwared ar amodau perthnasol o fewn trwydded

Efallai yr hoffech drafod eich cais gyda swyddog trwyddedu cyn cwblhau’r ffurflen.

Mae’n bwysig deall y bydd eich cais yn fwy cynhwysfawr drwy gynnwys cymaint o wybodaeth a phosibl. Gall methu a darparu gwybodaeth ddigonol arwain at wrthod eich cais. Os ydych yn gwneud cais am amrywiad i gynllun eich mangre, rhaid cynnwys cynllun diwygiedig.

Mân amrywiad

Diffinnir mân amrywiad fel un na fyddai’n cael effaith sylweddol ar unrhyw rai o’r pedwar amcan trwyddedu.

  • Newidiadau bach i strwythur neu gynllun mangre
  • Ychwanegu caniatâd ar gyfer lluniaeth hwyr yn y nos neu adloniant wedi’i reoleiddio
  • Mân newidiadau i oriau trwyddedu
  • Adolygu, cael gwared ac ychwanegu amodau. Gall hyn gynnwys cael gwared neu addasu amodau annilys, amherthnasol neu rai nas rhagwelwyd, neu ychwanegu amodau gwirfoddol

Trosglwyddo trwydded safle

Cwblhewch y ffurflen ar-lein a thalu'r ffi berthnasol.

Gall unrhyw un o’r canlynol wneud cais am drwydded adeilad

  • unrhyw un sydd fel arfer yn cynnal busnes yn yr adeilad sy’n berthnasol i’r cais
  • clwb cydnabyddedig
  • elusen
  • corff gwasanaeth iechyd
  • person sydd wedi ei gofrestru dan Ddeddf Gofal Safonol 2000 mewn  perthynas ag ysbyty annibynnol
  • prif swyddog heddlu yng Nghymru a Lloegr
  • unrhyw un sy’n cyflawni swyddogaeth statudol dan uchelfraint Ei Mawrhydi
  • person o sefydliad addysgol
  • unrhyw berson arall a ganiateir

Ni ddylai ceiswyr fod dan 18 oed.

Rhaid gyrru’r ceisiadau i awdurdod trwyddedu dros yr ardal y lleolir yr adeilad.

Rhaid i geisiadau fod mewn fformat penodol ynghyd ag unrhyw ffi gofynnol, rhaglen weithredu, cynllun o’r safle a ffurflen ganiatâd gan oruchwyliwr y safle (ar gyfer ceisiadau lle bydd gwerthiant alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy).

Bydd rhaglen weithredu’n cynnwys manylion am:

  • y gweithgaredd trwyddedadwy
  • yr amserau pan ddigwydd y gweithgareddau
  • unrhyw amserau eraill y bydd yr adeilad ar agor i’r cyhoedd
  • mewn achos o geiswyr sy’n dymuno cael trwydded gyfyngedig, y cyfnod sydd angen y drwydded
  • gwybodaeth mewn perthynas â goruchwyliwr y safle
  • pa un a fydd unrhyw alcohol sydd i gael ei werthu i’w yfed ar y safle neu du allan iddi, neu’r ddau
  • y camau arfaethedig i’w cymryd i hyrwyddo amcanion y drwydded
  • unrhyw wybodaeth arall

Gall y bydd angen i’r ceiswyr hysbysu eu cais ac i roi hysbysiad o’u cais i unrhyw berson arall neu gorff cyfrifol e.e. Awdurdod Lleol, prif swyddog yr heddlu neu’r awdurdod tân ac achub.

Rhaid i’r awdurdod trwyddedu ganiatáu’r cais, a all fod yn ddarostyngedig i amodau. Rhaid cynnal gwrandawiad os gwneir unrhyw gynrychioliad mewn perthynas â’r cais. Os cynhelir y gwrandawiad, gellir caniatáu’r drwydded neu ei chaniatáu yn ddarostyngedig i  amodau ychwanegol, gall gweithgareddau trwyddedadwy a restrwyd yn y cais gael eu gwahardd neu gellir gwrthod y cais. 

Bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi rhybudd o’i benderfyniad i’r ceisydd, unrhyw berson a wnaeth gynrychioliad perthnasol (h.y. cynrychioliadau nad ystyrid yn ddisylwedd neu’n drallodus) a phrif swyddog yr heddlu.

Gellir gwneud cais hefyd i newid neu drosglwyddo trwydded. Gall y bydd angen cynnal gwrandawiad os gwneir cynrychioliad neu os na chwrddwyd ag amodau perthnasol i drosglwyddiad.

Ceisiadau eraill y gellir eu gwneud yw ceisiadau am hysbysiad awdurdod dros dro  yn dilyn marwolaeth, analluogrwydd neu fethdaliad daliwr trwydded neu geisiadau adolygu.

Bydd. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.

Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â’r Adain Safonnau Masnach - gweler y manylion ar yr ochr dde.

Cysylltwch â’ch Awdurdod lleol yn gyntaf. Os gwrthodir unrhyw gais, gall y ceisydd wneud apêl.

Gwneir apeliadau i’r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o’r penderfyniad. 

Cysylltwch â’ch Awdurdod lleol yn gyntaf.

Os bydd y cais yn cael ei wneud gan y prif gwnstabl, fel disgrifir isod, a bydd camau dros dro yn cael ei gymryd gan yr awdurdod trwyddedu gallwch wneud cynrychiolaeth. Bydd rhaid cynnal gwrandawiad o fewn 48 awr o’ch cynrychiolaeth.

Gall unrhyw ddeiliad trwydded sydd yn dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm wrth ei drwydded, penderfyniad i wrthod cais am amrywiad, penderfyniad i wrthod cais i drosglwyddo neu benderfyniad i eithrio gweithgaredd neu berson fel arolygwr adeilad.

Gwneir apeliadau i’r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o’r penderfyniad.

Gall person a diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu i adolygu trwydded yr adeilad. Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal gan yr awdurdod trwyddedu.

Gwneir apeliadau i’r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o’r penderfyniad.

Gall prif gwnstabl yr ardal ble lleolir yr adeilad wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am adolygiad o’r drwydded os yw’r adeilad wedi’i drwyddedu i fanwerthu alcohol ac mae uwch swyddog wedi tystio ei bod o’r farn bod yr adeilad yn gysylltiol ynteu gyda throsedd difrifol neu anhrefn neu’r ddau. Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal a bydd deilodd y drwydded a phersonau gyda diddordeb yn cael y cyfle i wneud gosodiadau.

Gall prif gwnstabl roi hysbyseb i’r awdurdod trwyddedu os ydynt yn coelio bod trosglwyddo trwydded o, o dan gais amrywiaeth yn gallu tanseilio amcanion trosedd. Bydd rhaid rhoi hysbysiad o fewn 14 diwrnod o dderbyn hysbysiad o’r cais.

Gall person a diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud gosodiadau mewn perthynas i gais trwyddedu neu ofyn i’r corff trwyddedu adolygu’r drwydded

Gall person a diddordeb neu awdurdod cyfrifol wneud cais i’r awdurdod trwyddedu adolygu’r drwydded. Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal gan yr awdurdod trwyddedu.

Gall prif gwnstabl wneud gosodiadau i’r awdurdod trwyddedu am adolygiad o’r drwydded os yw’r adeilad wedi’i drwyddedu i fanwerthu alcohol ac mae uwch swyddog wedi tystio ei bod o’r farn bod yr adeilad yn gysylltiol ynteu gyda throsedd difrifol neu anhrefn neu’r ddau.

Gall person a diddordeb neu awdurdod cyfrifol a wneir gosodiadau perthnasol apelio yn erbyn rhoi trwydded neu yn erbyn unrhyw amod, amrywiaeth, gweithgaredd trwyddedu neu benderfyniad arolygwr. 

Gwneir apeliadau i’r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o’r penderfyniad.