Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Tystysgrif adeilad clwb


I awdurdodi cyflenwi alcohol ac adloniant rheoledig mewn clwb sy’n gymwys rydych angen tystysgrif adeilad clwb gan eich Awdurdod Lleol.

Mewn clwb sy’n gymwys, yn dechnegol, does dim gwerthiant drwy fanwerthu alcohol (ac eithrio i westai) gan fod yr aelodau’n berchen ar ran o’r cyflenwad alcohol a bod yr arian a drosglwyddir dros y bar yn ddim ond mecanwaith i ddiogelu tegwch rhwng aelodau lle gall un person yfed mwy nag un arall. Er mwyn sefydlu clwb sy’n gymwys rhaid i chi hefyd fodloni’r gwahanol ofyniadau a osodwyd yn Neddf Trwyddedu 2003.

Rhaid i glybiau fod yn glybiau sy’n gymwys. Mae gan glwb sy’n gymwys, amodau sy’n rhaid eu bodloni. Y rhain yw:

  • gellir na roir aelodaeth i berson, na breintiau aelodaeth i ceisydd ar gyfer bod yn aelod heb gyfnod o leiaf ddau ddiwrnod o gais i fod yn aelod neu enwebiad ac i’w haelodaeth gael ei ganiatáu
  • fod rheolau’r clwb yn datgan
  • fod y rhai sy’n dod yn aelodau heb enwebiad neu gais, ddim yn gallu cael breintiau aelodaeth hyd o leiaf ddau ddiwrnod rhwng dod yn aelod a chael eu derbyn i’r clwb
  • fod y clwb yn cael ei sefydlu a’i gynnal mewn didwylledd
  • fod gan y clwb o leiaf 25 aelod
  • fod alcohol ond yn cael ei gyflenwi i aelodau ar y safle ar ran neu gan y clwb

Rhaid cydymffurfio ag amodau ychwanegol mewn perthynas â chyflenwi alcohol. Y rhain yw:

  • fod yr alcohol a brynir ar gyfer a’i gyflenwi gan y clwb, yn cael ei wneud gan aelodau o glwb a rhaid iddynt fod dros18 oed ac wedi eu dewisi wneud hynny gan yr aelodau
  • na all yr un person ar draul y clwb dderbyn unrhyw gomisiwn, canran nag unrhyw daliad tebyg mewn perthynas â phrynu alcohol gan y clwb
  • nad oes unrhyw drefniant gan unrhyw un i dderbyn budd ariannol o gyflenwi alcohol, - ac eithrio unrhyw fudd i’r clwb, - nac i unrhyw berson yn anuniongyrchol, o’r cyflenwad yn rhoi elw o redeg y clwb.

Bydd cymdeithasau diwydiannol, cymdeithasau darbodus a chymdeithasau cyfeillgar sydd wedi eu cofrestru, yn gymwys,  os bydd yr alcohol sy’n cael ei brynu ar gyfer y clwb a’i ddosbarthu gan y clwb, yn cael ei wneud dan reolaeth yr aelodau neu bwyllgor o’r aelodau.

Gellir ystyried sefydliadau lles glowyr perthnasol hefyd. Sefydliad perthnasol yw un a reolir gan bwyllgor neu fwrdd sy’n cynnwys o leiaf ddwy ran o dair o bobl a apwyntiwyd neu a ddyrchafwyd gan un neu fwy o weithredwyr trwyddedig dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994 a chan un neu fwy o sefydliadau sy’n cynrychioli gweithwyr pyllau glo. Gall y sefydliad gael ei rheoli gan bwyllgor neu fwrdd lle nad yw’r bwrdd yn cynnwys manylion fel yr uchod ond ei fod yn cynnwys o leiaf ddwy ran o dair o’r aelodau a gai eu cyflogi neu a gyflogir yn, neu o amgylch pyllau glo a hefyd gan bobl a apwyntiwyd gan Sefydliad Lles y Diwydiant Glo neu gan gorff oedd a swyddogaethau tebyg dan Ddeddf Lles y Glowyr 1952. Beth bynnag mae’n rhaid i adeilad y sefydliad gael ei ddal gan ymddiriedolaeth fel sy’n angenrheidiol dan Ddeddf Elusennau Adloniadol 1958.

Gall clwb wneud cais am dystysgrif adeilad clwb ar gyfer unrhyw adeilad a feddiennir a’i ddefnyddio’n rheolaidd ar gyfer dibenion clwb.

Dylid gwneud cais i’r awdurdod trwyddedu lleol, sef yr Awdurdod Lleol lle mae’r adeilad wedi ei leoli.

Dylai’r ceisiadau gael eu cyflwyno ynghyd â chynllun o’r adeilad sy’n rhaid bod mewn fformat penodol, copi o reolau’r clwb a rhaglen gweithredu’r clwb.

Mae rhaglen gweithredu’r clwb yn ddogfen sy’n rhaid bod mewn fformat penodol, ac yn cynnwys gwybodaeth am:

  • weithgareddau’r clwb
  • yr amser pan fo’r gweithgareddau i ddigwydd
  • amserau agor
  • os yw’r cyflenwadau alcohol i’w hyfed ar neu oddi ar y safle neu’r ddau
  • y camau y bwriada’r clwb eu gweithredu i hyrwyddo amcanion y trwyddedu
  • unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen.

Os oes unrhyw newidiadau i’r rheolau neu enw’r clwb cyn i’r cais gael ei bennu neu ar ôl i dystysgrif gael ei rhoi, rhaid i ysgrifennydd y clwb roi manylion i’r awdurdod trwyddedu lleol. Os yw tystysgrif yn ei lle, rhaid ei gyrru at yr awdurdod trwyddedu pan hysbysir hwy.

Os yw tystysgrif yn ei lle a bod cyfeiriad cofrestru’r clwb yn newid, rhaid i’r clwb hysbysu’r awdurdod trwyddedu lleol o’r newid a darparu’r dystysgrif gyda’r hysbysiad.

Gall clwb wneud cais i awdurdod trwyddedu lleol i newid tystysgrif. Dylai’r dystysgrif gael ei gyrru gyda’r cais.

Gall yr awdurdod trwyddedu lleol archwilio’r adeilad cyn yr ystyrir y cais.

Gall fod ffi yn daladwy am unrhyw fath o gais perthnasol i dystysgrif adeilad clwb.

Ydi - Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.

Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â'r Adran Drwyddedu

Please use the contact details on the right

Cysylltwch â’ch Awdurdod lleol yn gyntaf.

Bydd cais a wrthodwyd yn derbyn rhybudd gan yr awdurdod trwyddedu lleol o wrthodiad y cais am dystysgrif neu newid tystysgrif.

Os gwrthodir cais, gall y ceisydd apelio yn erbyn y penderfyniad.

Rhaid i apeliadau gael eu gwneud at y Llys Ynadon lleol o fewn 21diwrnod i benderfyniad yr apeliad.

Cysylltwch â’ch Awdurdod lleol yn gyntaf.

Os bydd awdurdod trwyddedu yn gwrthod cais am newid trwydded gall deilydd y drwydded apelio yn erbyn y penderfyniad.

Gall unrhyw ddeiliad trwydded apelio yn erbyn penderfyniad i roi amod ynghlwm wrth ei drwydded neu i wahardd unrhyw weithgaredd yn y clwb.Gellir hefyd apelio yn erbyn amrywiad o unrhyw amod.

Gall apelio yn erbyn encilio tystysgrif.

Gellir gwneud apeliadau yn erbyn penderfyniad yr adolygiad.

Rhaid i apeliadau gael eu gwneud at y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i benderfyniad yr apeliad.

Pe byddai defnyddiwr yn gwneud cwyn, ein cyngor fyddai i chwi gysylltu â’r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Safle we Consumer Direct roi cyngor i chwi. Y tu allan i’r DU, gweler tudalennau GOV.UK a Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU sef yr Uk European Consumer Centre. Gweler y dolenni isod.

Gall aelod o glwb wneud cais am adolygiad o’r dystysgrif. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn rhoi rhesymau dros eu hymateb i’r cais mewn hysbysiad.

Gellir gwneud apeliadau yn erbyn penderfyniad yr adolygiad.

Rhaid i apeliadau gael eu gwneud at y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i benderfyniad yr apeliad.

Gall unrhyw barti sydd â diddordeb wneud cynrychioliad i’r awdurdod trwyddedu lleol cyn bod y dystysgrif yn cael ei chaniatáu. Os gwneir cynrychioliad, cynhelir gwrandawiad i ystyried y cais a’r cynrychioliadau. Rhoir hysbysiad gan yr  awdurdod trwyddedu lleol yn manylu am y rhesymau dros y canlyniad. Bydd partïon â diddordeb a wnaeth gynrychioliad yn derbyn hysbysiad o gais a wrthodwyd.

Parti â diddordeb yw:

  • person yn byw yn ymyl y safle neu gorff yn cynrychioli’r fath berson
  • person sy’n ymwneud â busnes yn ymyl y safle neu gorff yn cynrychioli’r fath berson

Gall parti sydd â diddordeb ofyn am adolygiad o dystysgrif adeilad y clwb. Bydd yr awdurdod trwyddedu lleol yn rhoi rhesymau dros eu hymateb i’r cais mewn hysbysiad.

Gall parti sydd â diddordeb apelio os dadleuant na ddylid bod wedi caniatáu’r dystysgrif neu y dylai  gwahanol amodau neu amodau ychwanegol neu gyfyngiadau ar weithgareddau fod wedi eu gwneud. Gallant hefyd apelio yn erbyn unrhyw newid ar amod.

Gellir apelio yn erbyn penderfyniad adolygiad.

Rhaid i apeliadau gael eu gwneud at y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod i benderfyniad yr apeliad.