Os ydych yn rheoli eiddo annomestig mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn hysbysu’r awdurdod lleol os oes tŵr oeri neu gyddwysydd anweddol (dyfeisiadau y dylid hysbysu yn eu cylch) o fewn yr eiddo.
Rhaid cyflwyno’r wybodaeth yn ysgrifenedig (gan gynnwys dulliau electronig) ar ffurflen a gymeradwyir gan yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch.
Rhaid i chwi hysbysu’r awdurdod lleol neu gyngor yr ynys neu’r ardal os bydd unrhyw newid yn y wybodaeth a gyflwynir, a hynny yn ysgrifenedig o fewn un mis o’r newid.
Os bydd y ddyfais yn peidio â bod yn ddyfais hysbysadwy, rhaid i chwi roi gwybod yn ysgrifenedig i’r awdurdod lleol neu i gyngor yr ynys neu’r ardal cyn gynted ag y bo modd.
Bydd - golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.
Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â:
Adain Drwyddedu, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW
Ffon: 0044(0)1248 750057
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU(UK European Consumer Centre).