Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Sefydliad lletya anifeiliaid


Er mwyn rhedeg cenel cŵn neu gathod, mae’n rhaid cael trwydded gan yr awdurdod lleol. Bydd nifer y cŵn a’r cathod y gellir eu cartrefu wedi ei nodi ar y drwydded, ynghyd ag unrhyw amodau penodol eraill.

Gall awdurdod lleol awdurdodi swyddog, milfeddyg neu ymarferydd i archwilio’r eiddo.

Pan gyflwynir y cais, ni ddylai’r ceisydd fod wedi ei wahardd rhag unrhyw un o’r canlynol:

  • cadw busnes cartrefu anifeiliaid
  • cadw siop anifeiliaid anwes yn unol â Deddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • cadw anifeiliaid yn unol â Deddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygiedig) 1954
  • bod yn berchen, cadw, ymwneud â chadw neu fod â hawl i reoli neu ddylanwadu ar gadw anifeiliaid, delio mewn anifeiliaid neu gario neu fod yn rhan o gario anifeiliaid yn unol Deddf Lles Anifeiliaid 2006
  • bod yn berchen, cadw, delio gyda neu gario anifeiliaid yn unol â Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006. Yn yr Alban mae’n ofynnol hefyd i geisydd fod heb ei wahardd rhag gweithio gydag anifeiliaid, defnyddio na marchogaeth anifeiliaid, darparu gwasanaethau i anifeiliaid a fyddai’n golygu bod yn berchen arnynt, bod yn berchen anifail er mwyn cyflawni unrhyw un o’r gweithgareddau a restrwyd neu fod yng ngofal anifeiliaid i unrhyw ddiben arall.

Bydd ffioedd yn daladwy am y ceisiadau ac mae’n bosibl y bydd amodau ynghlwm wrthynt.  Caiff y meini prawf canlynol eu cadw mewn cof wrth ystyried y cais:

  • Bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw dan amgylchiadau addas bob amser. Mae amgylchiadau addas yn golygu bdeiladwaith a maint yr adeilad, nifer yr anifeiliaid a gedwir ynddo, cyfleusterau ymarfer ar gyfer yr anifeiliaid, glendid a thymheredd, a darpariaethau goleuo ac awyru.
  • bod bwyd a diod addas a deunydd gwely wedi ei ddarparu a bod yr anifeiliaid yn cael ymarfer ac yn derbyn sylw yn rheolaidd.
  • bod camau yn cael eu cymryd i atal a rheoli haint rhag lledu ymhlith yr anifeiliaid a bod cyfleusterau arunigo ar gael.
  • bod yr anifeiliaid wedi eu diogelu’n ddigonol rhag achosion o dân neu argyfyngau eraill.
  • bod cofrestr yn cael ei gadw. Dylai’r gofrestr gynnwys disgrifiad o’r holl anifeiliaid a dderbynnir, y dyddiad pan fyddant yn cyrraedd ac yn ymadael ac enw a chyfeiriad y perchennog. Dylai’r gofrestr fod ar gael i’w archwilio ar unrhyw adeg gan swyddog yr awdurdod lleol, milfeddyg neu ymarferydd.

Na Fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.  Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir trwydded iddo apelio yn y Llys Ynadon lleol.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.  Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy’n dymuno apelio'n erbyn amod sydd ynghlwm wrth ei drwydded apelio yn y Llys Ynadon lleol.

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).