Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymeradwyo adeilad ar gyfer bwyd


Os ydych yn rhedeg busnes bwyd, mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i chi gael eich cymeradwyo gan eich awdurdod lleol.

Y mathau o safleoedd y dylid derbyn cymeradwyaeth iddynt oddi wrth yr awdurdodau lleol yw safleoedd annibynnol (h.y. heb fod ynghlwm wrth ladd-dy, peiriant torri neu fusnes helwriaeth). Dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i weld os ydych angen trwydded.

  • busnesau prosesu cig
  • busnesau paratoi cig
  • busnesau prosesu mân gig a busnesau prosesu cig wedi ei wahanu.
  • oergelloedd storio

Na Fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, byddwch cystal â chysylltu â hwy.

Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch: 01248 750057

Cysylltwch â’r Adain Drwyddedu yn gyntaf.

Cysylltwch â’r Adain Drwyddedu yn gyntaf.

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).