I gynnal seremoni sifil neu briodas mewn adeiladau yng Nghymru neu Loegr, rhaid iddynt gael cymeradwyaeth gan eich Awdurdod Lleol.
Meini prawf cymhwyster
Rhaid i chi fod yn berchennog neu’n ymddiriedolwr y safle i wneud cais am ganiatâd i gynnal seremonïau sifil neu briodasau.
Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig (yn cynnwys moddau electronig) ac yn cynnwys:
- enw a chyfeiriad y ceisydd
- unrhyw wybodaeth arall sydd ar yr Awdurdod Lleol ei angen
- cynllun o’r adeilad sy’n nodi’n glir yr ystafell neu’r ystafelloedd y bydd y gweithrediadau’n digwydd
Gall fod ffi’n daladwy.
Fe archwilir eich adeilad.
Bydd eich cais a’ch cynllun ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio ynghyd â hysbyseb cyhoeddus o’r cais wedi ei roi mewn papur lleol fel rhan o broses ymgynghoriad cyhoeddus.
Er mwyn ei ganiatáu rhaid i’ch cais fod yn y fformat cywir a’ch safle yn cael ei hystyried yn addas.
Fodd bynnag, gall eich cais yn dal i gael ei wrthod os teimlir bod gormod o safleoedd wedi eu cymeradwyo yn yr ardal i’r cofrestrydd allu eu mynychu.
Gall amodau gael eu gosod ar eich cymeradwyaeth.
Gall y Cofrestrydd Cyffredinol roi arweiniad i Awdurdodau Lleol i’w cynorthwyo i wneud eu penderfyniad.

Bydd Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.
Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â:
Gwasanaethau Cofrestru, Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Sir, Ffordd Glanhwfa, Llangefni. LL77 7TW
Ffôn: 0044 (0)1248 724762
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.
Os gwrthodir unrhyw gais, gall y ceisydd ofyn am adolyiad.
Mae’n rhaid i chi ddanfon eich cais am adolygiad i’ r swyddog priodol yn yr awdurdod lleol ynghyd â’r ffi.
Cysylltwch â’ch Awdurdod lleol yn gyntaf.
Gall unrhyw ddeiliad trwydded sydd yn dymuno apelio , n erbyn amod ynghlwm wrth ei drwydded wneud apêl i’w
Mae gennych y hawl i ofyn am adolygiad o’r amodau a roddwyd gan yr awdurdod lleol, gwrthod i adnewyddu neu diddymiad o gymeradwyaeth.
Mae’n rhaid i chi ddanfon eich cais am adolygiad i’ r swyddfa yn yr awdurdod lleol ynghyd â’r ffi.
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU(UK European Consumer Centre).