Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Trwydded siopau rhyw


I gadw siop ryw – h.y. unrhyw adeiladau’n gwerthu teganau, llyfrau a fideos rhyw – mae angen trwydded gan y cyngor lleol.

I gadw adeilad lle dangosir ffilmiau rhywiol eglur i aelodau o’r cyhoedd, rydych hefyd angen trwydded gan eich cyngor lleol.

Fodd bynnag, gallwch wneud cais at y Cyngor Lleol yn gwneud cais ar iddynt hepgor angen am drwydded.

Meini prawf cymhwyster

Rhaid i geisydd

  • fod dros18 oed
  • fod heb ei wahardd rhag dal trwydded
  • fod wedi byw yn y DU am o leiaf chwe mis yn union cyn y cais neu, os yn gorfforaeth  gorfforedig, rhaid bod yn gorfforedig yn y DU,
  • sydd heb gael gwrthod caniatâd neu adnewyddiad trwydded am yr adeilad dan sylw o fewn y 12 mis diwethaf, os nad oedd y gwrthodiad wedi ei wyrdroi ar apêl.   

Bydd ffi yn daladwy am geisiadau a gall fod amodau ynghlwm wrthynt.

Rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig (yn cynnwys moddau electronig) ac yn cynnwys unrhyw wybodaeth sydd ar yr Awdurdod Lleol ei angen, yn ogystal ag enw’r ceisydd, cyfeiriad, a phan fo’r ceisydd yn unigolyn, eu hoed ynghyd â chyfeiriad eu hadeilad.

Rhaid i geiswyr roi hysbysiad cyhoeddus o’u cais drwy gyhoeddi hysbyseb mewn papur lleol.

Na Fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, byddwch cystal â chysylltu â hwy.

Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â:

Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW 

Ffôn: 0044(0)1248 750057

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Os gwrthodir unrhyw gais neu wrthod adnewyddu’r drwydded, gall y ceisydd wneud apêl i’r Llys Ynadol lleol ymhen 21 diwrnod o dderbyn hysbysiad o wrthod y cais.

Ond nis yw’r hawl i apelio yn gymwys os wrthodir y cais am y rhesymau canlynol:

  • mae nifer y sefydliadau rhyw yn yr ardal yn fwy na nifer mae’r awdurdod yn cysidro’n addas
  • byddai cytuno i’r drwydded yn anaddas oherwydd natur yr ardal, natur sefydliadau eraill yn yr ardal, neu’r adeilad ei hun

Cysylltwch â’ch Awdurdod lleol yn gyntaf.

Gall unrhyw ddeiliad trwydded sydd yn dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm wrth ei drwydded wneud apêl i’w Llys Ynadon lleol.

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).

Gall unrhyw berson sy’n gwrthwynebu cais i roi, adnewyddu neu drosglwyddo trwydded hysbysu’r awdurdod penodol o’u gwrthwynebiad yn ysgrifenedig o fewn 28 niwrnod i ddyddiad y cais.