Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Trwydded casglu o dŷ i dŷ


I wneud casgliad o-dŷ-i-dŷ ar gyfer dibenion elusennol yng Nghymru a Lloegr rhaid i chi gael trwydded gan y cyngor.

Meini prawf cymhwyster

  • Rhaid i’r cais fod yn y ffurf a bennir gan y cyngor.
  • Rhaid i chi fod yn berson priodol ac addas.

Gwnewch gais

Gwnewch gais gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

Bydd caniatâd dealledig yn berthnasol.

Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan y cyngor erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.

Cysylltwch â'r cyngor yn y lle cyntaf.

Mae gennych yr hawl i apelio i’r Gweinidog ar gyfer y Swyddfa Cabinet

Mae’n rhaid apelio o fewn 14 diwrnod i’r cais gael ei wrthod.

Cysylltwch â'r cyngor yn y lle cyntaf.

Mae gennych yr hawl i apelio i’r Gweinidog ar gyfer y Swyddfa Cabinet

Mae’n rhaid apelio o fewn 14 diwrnod i’r cais gael ei wrthod.

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon).

Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).