Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Trwyddedau gamblo a loteri


Ma’r cyngor yn gyfrifol am gyflwyno trwyddedau eiddo a mae’r Comisiwn Gamblo yn gyfrifol am gyflwyno’r trwyddedau gweithredu a phersonol.

Mae’r Ddeddf yn caniatáu tri chategori o drwyddedau

  • trwyddedau gweithredu
  • trwyddedau personol
  • trwyddedau eiddo

Mae’r Comisiwn Gamblo yn rheoleiddio gamblo er budd y cyhoedd drwy gadw gamblo’n rhydd o droseddu, sicrhau fod gamblo’n cael ei gynnal yn deg ac yn agored a gwarchod plant a’r bregus.

Bydd y Comisiwn yn dal i gyflwyno canllawiau i Awdurdodau Lleol ynghylch y modd y dylent reoli gamblo a darparu ar ei gyfer a gallai hynny hefyd gynnwys darpariaethau ar gyfer hysbysebu darpariaethau gamblo.

Lotrïau Cymdeithasau Bychan

Rhaid cofrestru lotrïau cymdeithasau bychan gyda’r Cyngor.

Mae’r Comisiwn Hapchwarae’n darparu cyngor ar godi arian gyda lotrïau bychan.

Gellir cysylltu â’r Comisiwn Gamblo drwy ei gwefan. 

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.