Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Tacsi - trwyddedau


Trwydded cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat

Mae’n rhaid i’r awdurdod gyhoeddi trwyddedau a phennu amodau ar gyfer cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat i sicrhau bod y cerbydau a ddefnyddir yn ddiogel ac yn gyfforddus a bod y gyrwyr yn bersonau addas a phriodol, yn feddygol ffit, yn wybodus ac yn rhydd o Euogfarnau Perthnasol. Gellir stopio cerbydau hacni ar ochr y ffordd. 

Mae ganddynt arwydd tacsi ar y to a phlât ‘Tacsi’ gwyn yn cael ei arddangos ar flaen ac ar gefn pob cerbyd, ac mae’r cerbydau naill ai yn wyn neu arian.  Mae mesuryddion tacsi wedi eu gosod ym mhob cerbyd hacni ar gyfer gweithio allan y pris.  Ni ddylai’r pris fod yn fwy nag  Uchafswm Prisiau Cerbyd Hacni.

Ni ellir stopio cerbydau hurio preifat ar ochr y ffordd.  Rhaid i bob cerbyd hurio preifat gael ei logi ymlaen llaw.  Nid oes unrhyw olau ar eu to ac y mae plât ‘CHP’ (PHV) melyn wedi ei arddangos ar flaen ac ar gefn y cerbyd. 

Fe all cerbydau o’r fath fod yn unrhyw liw ac eithrio gwyn ac arian.  Os yw cerbyd hurio preifat yn stopio pan fydd yn cael ei alw, mae’n debygol na fyddai’r person sydd yn teithio yn y cerbyd wedi ei yswirio. Rhaid i’r holl gerbydau hurio preifat gael eu gweithredu gan Weithredwr Hurio Preifat.

Rhaid i bob cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat fod wedi cael eu harchwilio yng Ngorsaf Archwilio Cerbydau’r Cyngor yng Ngaerwen lle mae’r cerbydau’n cael eu harchwilio fel rhan o brawf safonol a bennir gan y Cyngor.

Mae gwybodaeth bellach ar y modd yr ydym yn rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat ar gael yn ein 'Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni (Tacsis), Cerbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr'

Pwy all wneud cais am drwydded gyrrwr newydd

  • Unrhyw un sydd â thrwydded yrru lawn gan y DVLA y maent wedi’i dal ers mwy na 12 mis
  • Unrhyw un sy’n rhydd o  ‘Euogfarnau ‘Perthnasol’
  • Unrhyw berson nad ydynt wedi eu anghymwyso oherwydd eu statws mewnfudo

Cais am drwydded gyrrwr newydd

Anogir ymgeiswyr i wneud eu ceisiadau ar-lein neu yn bersonol yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni.  

Bydd angen yr eitemau canlynol hefyd pan yn cyflwyno cais : 

  • Trwydded yrru DVLA lawn a chyfredol - mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod wedi dal y drwydded am o leiaf 12 mis
  • Un llun maint pasport (Ceisiadau newydd)
  • Ffurflen gais SCT (DBS) wedi’i chwblhau

Byddwn yn anfon ceisiadau wedi’u cwblhau ymlaen i’r Gwasanaeth Datgeliad a Gwahardd.

  • Dwy  ‘Ffurflen Geirda’ wedi eu cwblhau
  • ‘Tystysgrif Feddygol’ wedi ei chwblhau gan Feddyg Teulu’r ymgeisydd
  • Y Ffi briodol
  • Prawf o’r hawl i weithio yn y DU
  • Ffioedd a chostau

Cyn cyflwyno  ‘cais Preifat Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat’, bydd unigolion yn cael eu gwahodd i ymgymryd â ‘Phrawf Gwybodaeth Tacsi’.  Mae’r ymarfer ysgrifenedig 15 munud hwn wedi ei gynllunio i brofi sgiliau rhifedd a gofal cwsmer yr ymgeisydd, gwybodaeth ddaearyddol a dealltwriaeth gadarn o reolau ac amodau tacsi fel yr amlinellir hwy ym Mholisi Trwyddedu Tacsi yr Awdurdod 'Polisi Trwyddedu Cerbydau Hacni (Tacsis), Cerbydau Hurio Preifat, Gyrwyr a Gweithredwyr'.   

Pe bai’r ymgeisydd yn methu pasio’r ‘Prawf Gwybodaeth Tacsi’ gellir gofyn am ‘Ail brawf’ am gost ychwanegol o £25.  Nodwch os gwelwch yn dda bod angen o leiaf 24 awr rhwng methu’r ‘Prawf Gwybodaeth Tacsi’ cychwynnol a’r ‘Ail brawf’.  Unwaith y bydd y prawf gwybodaeth wedi ei gwblhau’n llwyddiannus, gellir cyflwyno’r cais. 

Cais am drwydded gyrrwr

Diogelu

Bydd angen i’r sawl sy’n ymgeisio am drwydded gyrrwr fynd ar gwrs diogelu cydnabyddedig cyn cael trwydded.          

Beth sy’n digwydd nesaf?

Yn dilyn derbyn SCT boddhaol gan y Gwasanaeth Datgeliad a Gwahardd, bydd y Cyngor wedyn yn ystyried eich cais ac os yw’n briodol, bydd yn rhoi allan Drwydded Gyrwyr Cerbydau Hacni. Os bydd y cais yn cael ei wrthod, yna gall yr ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Pwyllgor Trwyddedu. 

Cais am drwydded cerbydau hacni neu gerbydau hurio preifat newydd

Anogir ymgeiswyr i wneud eu ceisiadau ar-lein neu yn bersonol yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni.

Bydd angen yr eitemau canlynol hefyd pan yn cyflwyno cais : 

  • MOT cyfredol (ei angen 12 mis ar ôl cofrestru cerbydau hacni am y tro cyntaf)
  • Tystysgrif yswiriant ar gyfer hurio ac adnewyddu
  • Tystysgrif pasio canolfan brawf y Cyngor
  • Tystysgrif Cofrestr V5C
  • Cynllun Seddau ar gyfer cerbydau ag ynddynt fwy na 4 o seddau i deithwyr

Cais am drwydded cerbydau hacni neu gerbydau hurio preifat

Cais am drwydded gweithredwr cerbyd hurio preifat newydd neu adnewyddu

Anogir ymgeiswyr i wneud eu ceisiadau ar-lein neu yn bersonol yn Swyddfeydd y Cyngor yn Llangefni.

Bydd angen yr eitemau canlynol hefyd pan yn cyflwyno cais : 

  • GDG Sylfaenol os nad oes gennych drwydded tacsi/Cerbyd Hurio Preifat
  • Prawf o’r hawl i weithio yn y DU