Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cofrestru tatwio, tyllu ac electrolysis


I gynnig triniaethau fel tatwio, tyllu ac electrolysis - bydd rhaid i’r person sydd yn perfformio’r driniaeth a’r adeilad cael ei gofrestru gyda’r awdurdod lleol.

Bydd rhaid i geisiadau gynnwys unrhyw wybodaeth a ofynnir gan yr awdurdod lleol.

Gair am y Rheoleiddio

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n ymwneud â’r drwydded hon 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Na Fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, byddwch cystal â chysylltu â hwy - gallwch wneud hyn ar-lein os ydych wedi gwneud eich cais trwy’r gwasanaeth UK Welcomes neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Gwneud cais

Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â:

Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW 

Ffôn: 0044(0)1248 750057

Gweithredu pan fydd cais yn methu

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â’ch Awdurdod lleol yn gyntaf.

Cwynion gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU(UK European Consumer Centre).