Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach


Mae Llywodraeth Cymru yn darparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau bach cymwys.

  • bydd safleoedd busnes cymwys sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100%
  • bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad ar raddfa a fydd yn gostwng o 100% i sero

Bydd y mathau isod o fusnesau yn cael rhyddhad ardrethi.

Safle gofal plant cofrestredig

  • Bydd safle gofal plant cofrestredig sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100%.
  • Bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £20,500 yn cael rhyddhad ar raddfa o 100% i sero.
  • Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach ar gyfer darparwyr gofal plant yn cael ei wella ymhellach i roi 100% o ryddhad i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru, bydd y lefel uwch o ryddhad ardrethi yn dechrau ar 1 Ebrill 2019, bydd yn weithredol am dair blynedd hyd at 31 Mawrth 2022, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd yn cael ei werthuso er mwyn asesu ei effaith.

Mae'r dyddiad hwn bellach wedi'i ymestyn. Darllenwch y datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru.

Swyddfeydd Post

  • Bydd Swyddfeydd Post sydd â gwerth ardrethol hyd at £9,000 yn cael rhyddhad o 100%.
  • Bydd y rheini â gwerth ardrethol rhwng £9,001 a £12,000 yn cael rhyddhad o 50%.

Terfyn amlfeddiannaeth

Os yw talwr ardrethi yn gyfrifol am fwy na dau eiddo ar un rhestr ardrethi annomestig leol (“rhestr leol”), ac mai dim ond yr amodau gwerth ardrethol y mae’r eiddo yn eu bodloni, bydd y talwr ardrethi yn cael rhyddhad ar gyfer uchafswm o ddau eiddo o’r fath yn unig.

Gwybodaeth pellach ar Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach yng Nghymru.

Rhyddhad trosiannol

Yn dilyn gwaith ailbrisio ardrethi annomestig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn 2017, bydd rhyddhad trosiannol yn cael ei weithredu i helpu’r rhai nad ydynt bellach yn gymwys i gael yr un Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR).

Bydd y cynllun rhyddhad trosiannol yn cael ei gyflwyno i roi cymorth i drethdalwyr a oedd yn cael SBRR ar 31 Mawrth 2017 ac a welodd ostyngiad yng nghanran yr SBRR yr oedd ganddynt hawl iddo ar 1 Ebrill 2017, oherwydd bod eu Gwerthoedd Ardrethol wedi cynyddu yn dilyn yr ailbrisio.

Bydd SBRR yn cael ei gymhwyso cyn rhyddhad trosiannol. Bydd y rhyddhad trosiannol yn gweithio drwy gyflwyno unrhyw gynnydd mewn atebolrwydd dros gyfnod o 3 blynedd (25% o gynnydd mewn atebolrwydd ym mlwyddyn 1, 50% ym mlwyddyn 2 a 75% ym mlwyddyn 3).

Trethdalwyr cymwys yw:

  • y rheini sy’n symud o SBRR llawn i SBRR rhannol
  • y rheini sy’n symud o SBRR llawn i ddim SBRR
  • y rheini sy’n symud o SBRR rhannol i ddim SBRR
  • y rheini sy’n aros o fewn SBRR rhannol, ond yn gweld cynnydd yn eu Gwerth Ardrethol

Rhyddhad ardrethi'r stryd fawr

Nod Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr, sy’n werth £5 miliwn, yw helpu manwerthwyr y stryd fawr yng Nghymru, fel siopau, tafarnau, bwytai, a chaffis, gan gynnwys y manwerthwyr hynny y mae eu hardrethi wedi codi o ganlyniad i ailbrisiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn 2017.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu dwy haen o ryddhad ardrethi’r stryd fawr, sef hyd at £250 (Haen 1) neu hyd at £750 (Haen 2), ar gyfer manwerthwyr cymwys y stryd fawr sy’n gweithredu o eiddo sydd â gwerth ardrethol o £50,000 neu lai ym mlwyddyn ariannol 2018-19, yn amodol ar derfynau Cymorth Gwladwriaethol.

Haen 1 – eiddo sy’n bodloni meini prawf y stryd fawr ac sy’n cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach neu Ryddhad Trosiannol ar 1 Ebrill 2017.

Haen 2 – eiddo sy’n bodloni meini prawf y stryd fawr nad ydynt yn cael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach na Rhyddhad Trosiannol ar 1 Ebrill 2017, ac sydd hefyd yn gweld cynnydd yn eu hatebolrwydd o ganlyniad i ailbrisiad 2017.

Yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu pryd i ganiatáu rhyddhad ardrethi, gan ystyried pob achos yn unigol, a bydd y rhyddhad hwnnw ar gael o 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Mawrth 2019.

Cewch lawrlwytho’r wybodaeth am Gynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr. Mae rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwysedd yn y canllawiau hyn.

Prosiectau ynni dŵr

Rydym yn rhoi grantiau i helpu prosiectau ynni dŵr cymwys i dalu eu hardrethi busnes. Mae prosiectau o’r fath yn defnyddio ynni o gyrsiau dŵr i gynhyrchu trydan. Gall prosiectau ynni dŵr sydd â gwerth ardrethol hyd at £50,000 ymgeisio am gymorth ar gyfer 2017-18 (cais ôl-weithredol) ac ar gyfer 2018-19. I gael rhagor o wybodaeth ac i gyflwyno cais, gweler Cymorth ardrethi (busnes) annomestig ar gyfer ynni dŵr

Am ragor o wybodaeth, ac i wirio eich bod wedi derbyn y rhyddhad cywir, dylech gysylltu a Adain Refeniw’r Cyngor, Blwch Post 29, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7ZF neu llenwch ein ffurflen ar-lein.