Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Rhyddhad dewisol i elusennau a chyrff di-elw


Mae hawl gan elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur i gael rhyddhad o 80% o ardrethi ar unrhyw eiddo annomestig:

  • yn achos elusen, os defnyddir yr eiddo yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol, neu
  • yn achos clwb, os yw’r clwb wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM

Mae gan awdurdodau bilio ddisgresiwn i beidio â chodi rhan neu’r cyfan o’r 20 y cant sy’n weddill o’r bil ar eiddo o’r fath a chaiff hefyd roi rhyddhad ar eiddo a feddiennir gan gyrff penodol nad ydynt wedi’u sefydlu nac yn cael eu rhedeg i wneud elw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch clybiau dylech gysylltu â:- Cyllid y Wlad, Ardal Gogledd Cymru, Plas Gororau, Ellice Way, Parc Technoleg, Wrecsam LL13 7YY.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.