Gwerth trethiannol
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
Pennir gwerth trethiannol eiddo annomestig gan swyddog prisio annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn y mwyafrif o achosion.
Caiff pob eiddo annomestig ei ailbrisio bob pum mlynedd. O 1 Ebrill 2010 ymlaen, gwerth trethiannol eiddo yw ei werth rhentol blynyddol ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2008. Mae mwy o wybodaeth ar gael o’r swyddfa brisio leol neu ar y wefan www.voa.gov.uk
Yn achos eiddo cyfansawdd sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, ymwneud á’r rhan annomestig yn unig y mae’r gwerth trethiannol. Dangosir gwerthoedd pob eiddo y mae’r trethi’n daladwy i’ch awdurdod mewn perthynas a hwy yn y rhestr drethu leol, y gellir archwilio copi ohoni yn swyddfa brisio leol Swyddfa Prisio Cyllid y Wlad, 339 Stryd Fawr Bangor, LL57 1YA ac hefyd yn yr Adran Gyllid.
Er mwyn cysylltu â’r Adran Gyllid, dilynwch y tab “cysylltiadau” ar ben y dudalen hon.
Newid y gwerth trethiannol
Gall y gwerth trethiannol newid os cred y swyddog prisio fod amgylchiadau’r eiddo wedi newid. Hefyd o dan rai amgylchiadau gall y trethdalwr (a rhai pobl eraill sydd â diddordeb yn yr eiddo) gynnig newid yn y gwerth. Os na fydd y trethdalwr a’r swyddog prisio yn cytuno ar y gwerth cyn pen 3 mis ar ôl i’r cynnig gael ei wneud, cyfeirir y mater fel apêl at Dribiwnlys Prisio.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut mae cynnig newid mewn gwerth trethiannol oddi wrth y swyddfa brisio.
Y Lluosydd Ardrethu Annomestig Cenedlaethol
Dyma’r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth ardrethol á hi i roi swm y bil ardrethol blynyddol ar gyfer eiddo. Mae’r lluosydd a bennir bob blwyddyn gan cynulliad Cymru yr un fath ar gyfer Cymru gyfan ac, ag eithrio mewn blwyddyn ailbrisio, ni all godi i fwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu.




