Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwerth trethiannol


Pennir gwerth trethiannol eiddo annomestig gan swyddog prisio annibynnol o Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn y mwyafrif o achosion.

Caiff pob eiddo annomestig ei ailbrisio bob pum mlynedd. O 1 Ebrill 2010 ymlaen, gwerth trethiannol eiddo yw ei werth rhentol blynyddol ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2008. Mae mwy o wybodaeth ar gael o’r swyddfa brisio leol neu ar y wefan www.voa.gov.uk

Yn achos eiddo cyfansawdd sy’n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, ymwneud á’r rhan annomestig yn unig y mae’r gwerth trethiannol. Dangosir gwerthoedd pob eiddo y mae’r trethi’n daladwy i’ch awdurdod mewn perthynas  a hwy yn y rhestr drethu leol, y gellir archwilio copi ohoni yn swyddfa brisio leol Swyddfa Prisio Cyllid y Wlad, 339 Stryd Fawr Bangor, LL57 1YA ac hefyd yn yr Adran Gyllid.

Er mwyn cysylltu â’r Adran Gyllid, dilynwch y tab “cysylltiadau” ar ben y dudalen hon.

Newid y gwerth trethiannol

Gall y gwerth trethiannol newid os cred y swyddog prisio fod amgylchiadau’r eiddo wedi newid. Hefyd o dan rai amgylchiadau gall y trethdalwr (a rhai pobl eraill sydd â diddordeb yn yr eiddo) gynnig newid yn y gwerth. Os na fydd y trethdalwr a’r swyddog prisio yn cytuno ar y gwerth cyn pen 3 mis ar ôl i’r cynnig gael ei wneud, cyfeirir y mater fel apêl at Dribiwnlys Prisio.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut mae cynnig newid mewn gwerth trethiannol oddi wrth y swyddfa brisio.

Y Lluosydd Ardrethu Annomestig Cenedlaethol

Dyma’r gyfradd yn y bunt y lluosir y gwerth ardrethol á hi i roi swm y bil ardrethol blynyddol ar gyfer eiddo. Mae’r lluosydd a bennir bob blwyddyn gan  cynulliad Cymru yr un fath ar gyfer Cymru gyfan ac, ag eithrio mewn blwyddyn ailbrisio, ni all godi i fwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu.

Ailbrisiad

Ailbrisiad yw’r adolygiad o werthoedd ardrethol holl eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr, a gynhelir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Mae hyn yn digwydd bob 3 blynedd.

Mae’r VOA yn prisio eiddo yn ôl ei werth ardrethol.

At ddibenion ardrethi busnes, dyma swm y rhent y gallai’r eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol.

Cyfeirir ato fel y Dyddiad Prisio Rhagflaenol (AVD).

Mae’r gwerth ardrethol yn seiliedig ar faint o rent y gallai’r eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol (sef 1 Ebrill 2021 ar gyfer ailbrisiad 2023).

Er mwyn cyfrifo’r gwerth ardrethol, mae’r VOA yn dadansoddi’r farchnad eiddo sydd wedi’u gosod i sicrhau bod gwerthoedd ardrethol yn adlewyrchu’r farchnad eiddo’n gywir.

Yr AVD ar gyfer ailbrisiad 2023 yw 1 Ebrill 2021.

Y Llywodraeth sy’n penderfynu ar ddyddiad y prisiad.

Dewisodd y Llywodraeth 1 Ebrill 2021 fel y byddai prisiadau yn adlewyrchu effaith COVID-19 ar y farchnad eiddo.

Rydym yn cyfrifo biliau ardrethi busnes gan ddefnyddio gwerth ardrethol.

Mae gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar faint o rent y gallai eiddo cwsmer fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol (sef 1 Ebrill 2021 ar gyfer ailbrisiad 2023).

Bellach mae cwsmeriaid yn gallu gweld y gwerth ardrethol i ddod ar gyfer eu heiddo a chael amcangyfrif o’u bil ardrethi busnes, a beth y gallai hwnnw fod.

Gallant wneud hyn drwy Wasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK

Cyn 1 Ebrill 2023, dylai cwsmeriaid Cymraeg ddefnyddio’r Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i’r VOA os ydynt o’r farn bod eu gwerth ardrethol yn rhy uchel.

Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i gwsmeriaid gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i’r VOA os ydynt o’r farn bod eu gwerth ardrethol yn rhy uchel.

Mae’n rhaid i chi barhau i dalu’ch ardrethi busnes yn ôl yr arfer. Os ydych yn gordalu, gallwch ofyn am ad-daliad gan eich cyngor lleol.

Cyn 1 Ebrill 2023, dylai cwsmeriaid Cymraeg ddefnyddio’r Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i’r VOA am newidiadau i fanylion eu heiddo, megis maint arwynebedd llawr a pharcio.

Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i gwsmeriaid gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i’r VOA am newidiadau i fanylion eiddo.

Mae’n rhaid i chi barhau i dalu’ch ardrethi busnes yn ôl yr arfer. Os ydych yn gordalu, gallwch ofyn am ad-daliad gan eich cyngor lleol.

Mae’n bosibl y bydd y VOA yn derbyn eu newidiadau ac yn diweddaru’r prisiad presennol a’r prisiadau yn y dyfodol.

Wrth gyfrifo gwerth ardrethol, mae’r VOA yn ystyried faint y gallai eiddo fod wedi’i roi ar osod amdano, ar ddyddiad penodol.

Gall gwerth ardrethol eiddo amrywio am sawl rheswm fel lleoliad a maint.

Mae sawl math o ryddhad rhag ardrethi busnes i gwsmeriaid. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar GOV.UK

Efallai y bydd angen iddynt gysylltu â’u cyngor lleol i wirio’u cymhwystra ar gyfer rhyddhad rhag ardrethi busnes.

Caiff rhyddhadau rhag ardrethi busnes eu trin yn wahanol os yw eu heiddo yng Nghymru.

Os yw cwsmer am awdurdodi asiant i weithredu ar ei ran, gall un gael ei benodi drwy ddefnyddio ffurflen awdurdod i weithredu ar GOV.UK