Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Trethi annomestig - gwybodaeth cyfrifon


Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn derbyn nifer o geisiadau o’r un math am wybodaeth sydd yn berthnasol ar gyfer trethi annomestig (eiddo busnes). I ymdopi a’r ceisiadau, rydym yn cyhoeddi y wybodaeth yma:-

Gwybodaeth cyfrifon

Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth yma yn chwarterol ac ni fyddwn yn darparu ymateb unigol i geisiadau cyffelyb yn ystod y flwyddyn dim ond cyfeirio’r ymholiad tuag at yr adroddiad berthnasol ar y wefan.

Cyfyngiadau ar y wybodaeth

  • darperir yr enwau a chyfeiriadau ar gyfer gohebiaethu ar gyfer cwmniau cyfyngedig a chyrff cyhoeddus yn unig ac nid ar gyfer unigolion (unig fasnachwyr, partneriaethau ayyb); mae Deddf Diogelu Data yn atal cyhoeddi’r wybodaeth yma
  • y trethdalwr yw’r person sydd yn atebol i dalu’r dreth fusnes. Mewn sawl achos gall hwn fod y deilydd lês ac nid y perchennog. Ni ellir adnabod y perchennog o’r wybodaeth yma
  • ni ddarperir rhifau cyfrif oherwydd fod rhain yn unigryw i’r cyfrif ac fe’i ddefnyddir i sicrhau mai’r person a enwir ar y bil yw deilydd y cyfrif pan mae’n cysylltu a Chyngor Sir Ynys Môn
  • fe gyhoeddir y rhestrau nesaf ar diwedd mis Ebrill 2024       
  • noder mai’r cyfeiriad gohebiaeth yw’r cyfeiriad olaf sydd gan y cyngor
  • bydd unrhyw newidiadau i’r rhestrau isod yn cael eu hadlewyrchu mewn adroddiadau a gyhoeddir ar y rhestrau nesaf 

Gwybodaeth cyfrifon

  • cyhoeddir y wybodaeth gyfrifon ddiweddaraf fel ag y mae ar 5 Ionawr 2024
  • mae credyd sydd ar gyfrif ar 31ain o Fawrth yn cael ei wrthbwyso yn awtomatig ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.
  • mae cyfrifon yn cael eu diweddaru yn ddyddiol a gall rhai fod gyda debyd ar gyfrif cyfatebol

Defnydd o enwau dwyieithog

Ymarferiad yr Awdurdod yw defnyddio enwau Cymraeg diofyn ar gyfer enwau trefi mewn cyfeiriadau. Dyma restr o enwau cyfatebol yn y Gymraeg a’r Saesneg ble ceir enwau Cymraeg a Saesneg ar y trefi

  • Ynys Môn - Isle of Anglesey
  • Biwmares  - Beaumaris
  • Caergybi - Holyhead
  • Porthaethwy - Menai Bridge
  • Y Fali – Valley

Nid oes enwau saesneg ar bentrefi eraill.