Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Beth yw Ynys Ynni™?


Ynys-Ynni logo

Mae’r Rhaglen Ynys Ynni, a sefydlwyd gan Gyngor Sir Ynys Môn, yn ymdrech ar y cyd rhwng nifer o randdeiliaid o fewn y sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector sy’n gweithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi Ynys Môn ar y blaen o ran ymchwil a datblygiad ynni carbon isel, cynhyrchiant a gwasanaethu a sicrhau buddion economaidd anferthol posibl.

Gweledigaeth Ynys Ynni yw gwireddu cyfle unwaith mewn oes ar gyfer creu swyddi, yn sicrhau ffyniant a tŵf economaidd drwy fanteisio ar nifer o brosiectau trawsnewidiol ar Ynys Môn.

Mae’r Rhaglen Ynys Ynni yn cydweithio gyda nifer o randdeiliaid allweddol er mwyn:

  • Denu buddsoddiadau strategol sylweddol a lliniaru’r risgiau
  • Dylanwadu ar ddatblygwyr posibl
  • Cefnogi datblygiad pobl a chymunedau cystadleuol
  • Cefnogi datblygiad busnesau cystadleuol
  • Cefnogi datblygiad isadeiledd cystadleuol
  • Cydnabod y manteision y gall prosiectau sylweddol eu cynnig a lliniaru effeithiau croes
  • Sicrhau’r manteision mwyaf posibl o ran buddion etifeddiaeth hirdymor