Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Buddion economaidd a dyddiadau allweddol prosiectau


Disgwylir i ddatblygiadau sy’n gysylltiedig ag Ynys Ynni ddod â hwb sylweddol i’n heconomi a hynny yn ystod y cyfnod adeiladu â’r cyfnod gweithredol. Mae’r manteision hyn eisoes yn dechrau amlygu eu hunain.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn gweithio’n galed gyda pherchnogion y prosiect a rhanddeiliaid allweddol er mwyn sicrhau bod y buddion economaidd - swyddi i bobl leol a gwaith ar gyfer busnesau lleol - yn aros yn lleol a rhanbarthol. 

Diweddarwyd yr wybodaeth hon ddiwethaf ym mis Hydref 2016.

Datblygiad Buddsoddiad Arfaethedig Amcangyfrif o nifer y swyddi fydd yn cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu Amcangyfrif o nifer y swyddi gweithredol
Land & Lakes £200 miliwn 400 600
Minesto £25 miliwn   30
M-SParc £20 miliwn 100 700
Orthios Eco Parks £1 biliwn 800 - 1000 700
Wylfa Newydd £10 biliwn 8000 - 10000 850 (+700 o brentisiaid cyn cychwyn cynhyrchu)

Paratowyd yr wybodaeth hon ym mis Hydref 2016 a gall newid dros amser wrth i’r gwahanol brosiectau ddechrau ar wahanol gylchoedd bywyd.

Datblygiad Dyddiad y disgwylir i’r gwaith adeiladu ddechrau Dyddiad y disgwylir i’r safle fod yn weithredol
Land & Lakes Diwedd 2017 (rhan o’r prosiect) 2018 (rhan o’r prosiect)
Minesto Ar y gweill Pencadlys Caergybi bellach ar agor
M-SParc Mai 2016 Tachwedd 2017
Orthios Eco Parks 2017 2018
Wylfa Newydd 2019 Hanner cyntaf 2020au