Ynys Ynni
Mae Ynys Ynni Môn™ yn benderfynol o roi Ynys Môn ar flaen y gad o safbwynt ymchwilio i ynni a’i ddatblygu, ei gynhyrchu a’r gwasanaethau cysylltiedig, gyda hynny yn ei dro yn arwain o bosib at fanteision economaidd anferthol.
Mae Ynys Ynni Môn™ yn benderfynol o roi Ynys Môn ar flaen y gad o safbwynt ymchwilio i ynni a’i ddatblygu, ei gynhyrchu a’r gwasanaethau cysylltiedig, gyda hynny yn ei dro yn arwain o bosib at fanteision economaidd anferthol.

Gallai Rhaglen Ynys Ynni gyfrannu bron i £2.5 biliwn at economi Ynys Môn a Gogledd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf. Yn sicr, mae’n gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi hwb anferthol i’r economi a rhaid i bawb fynd i’r afael â’r her.
Bydd y rhaglen yn fodd o fanteisio ar gyfleoedd mewn perthynas â thwf a datblygiad cyflogaeth. Mae harneisio cyfoeth o ffrydiau ynni gan gynnwys niwclear, gwynt, llanw, biomas a haul ynghyd â’r prosiectau gwasanaeth cysylltiedig yn gyfle gwych i sicrhau manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gyfer Ynys Môn a rhanbarth ehangach Gogledd Cymru.
Mae Rhaglen Ynys Ynni yn fwy na’r diwydiant ynni ac mae’n rhedeg trwy holl agweddau bywyd i gymunedau Môn a Gogledd Cymru fel e.e. cysylltiadau cludiant a thai; twristiaeth a chyfleusterau hamdden i wasanaethau pobl leol ac ymwelwyr.
Gyda’n gilydd fe allwn adeiladu dyfodol cynaliadwy i Fôn a Gogledd Cymru
Ynghylch Ynys Ynni
Ymdrech ar y cyd yw Ynys Ynni MônTM rhwng nifer o gydranddeiliaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn gweithio mewn partneriaeth.
Cyfleoedd ac effeithiau economaidd posibl
Mae’r cyfleoedd a gynigir gan ddatblygiadau ynni carbon isel o’r pwys mwyaf i Ynys Môn a Gogledd Cymru ac adfywiad y cymunedau lleol.
Effeithiau economaidd
Mae’r adfywiad economaidd a ddeuai yn sgil Rhaglen Ynys Ynni yn hollbwysig i wella safon bywyd trigolion a chymunedau’r ynys.
Swyddfa'r Rhaglen Ynys Ynni
Ymdrech ar y cyd yw Ynys Ynni Môn™ rhwng nifer o gydranddeiliaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn gweithio mewn partneriaeth.






