Gwasanaethau'r Cyngor:

Cyfleoedd posib

Yn y Rhaglen Ynys Ynni, mae’r cyfleoedd a gynigir gan ddatblygiadau ynni carbon isel o’r pwys mwyaf i ddatblygiad economaidd ac arallgyfeiriad ehangach Ynys Môn a Gogledd Cymru ac adfywiad y cymunedau lleol.

Bydd y Rhaglen Ynys Ynni yn sicrhau bod cyfleoedd lleol yn cael eu cydlynu’n effeithiol er mwyn newid ffyniant a chyflwr cymdeithasol ac economaidd yr ynys.

Canolbwyntir ar weithio ar gyfleoedd a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol ar yr agenda ffyniant economaidd a chynaliadwyedd.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • gorsaf niwclear newydd
  • datblygiadau ynni carbon isel ar y grid
  • datblygiadau ynni gwyrdd oddi ar y grid
  • datblygiadau tyrbinau gwynt ar y môr
  • y gwelliannau i’r isadeiledd sy’n gysylltiedig â datblygiadau ynni newydd
  • dadgomisiynu niwclear
  • effeithlonrwydd ynni
  • lleihau a rheoli gwastraff
  • datblygu sgiliau ac addysg
  • datblygu’r gadwyn gyflenwi
  • mesurau cefnogi busnes
  • cysylltiadau cyfathrebu cyflym
  • codi a gwella ymwybyddiaeth o faterion cynaliadwyedd
  • defnydd o ynni ar gyfer trafnidiaeth
  • mynd i’r afael â thlodi tanwydd

Cysylltwch â Tîm Ynys Ynni

Canolfan Busnes Ynys Môn
Parc Busnes Bryn Cefni
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7XA
Ffôn: 01248 752431 / 2435
Facs: 01248 752192
Ebost: datecon@ynysmon.gov.uk

energy island right asset
Diweddariad diwethaf: 26 Hyd 2010 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?