Ynghylch Ynys Ynni
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
-
Mapiau
Ymdrech ar y cyd yw Ynys Ynni MônTM rhwng nifer o gydranddeiliaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat yn gweithio mewn partneriaeth.
Mae gan y Rhaglen Ynys Ynni bedair rhan strategol i’w gweithredu:
Addysg, Sgiliau & Ymddygiad - datblygu gweithlu gyda’r sgiliau angenrheidiol fel y gallant fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael o safbwynt cynhyrchu ynni, arddangos a gwasanaethu. Sicrhau bod rhaglenni a gweithgareddau’n eu lle i annog newid mewn ymddygiad.
Polisi, Caniatâd & Isadeiledd - cynllunio a chefnogi datblygiad isadeiledd ar lefel strategol a chymunedol i hwyluso Rhaglen Ynys Ynni ac i greu manteision parhaol yn y gymuned. Hwyluso’r gwaith o ddatblygu polisïau addas, manteisio ar gyfleoedd ac ymateb i sialensiau.
Mewnfuddsoddi & Cadwyn Cyflenwi - gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi.
Rheoli Swyddfa’r Rhaglen - (gan gynnwys ymgysylltu ac ymgynghori gyda’r Gymuned) - Sicrhau bod pobl wrth wraidd y gweithgareddau a’u bod yn deall manteision Rhaglen Ynys Ynni.




