Caniatâd adeilad rhestredig
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
-
Gwefannau
-
Mapiau
Rhaid derbyn caniatâd adeilad rhestredig gan yr awdurdod cynllunio leol cyn gwneud unrhyw waith ar adeilad rhestredig fydd yn cael effaith ar ei werth arbennig i bwrpasau rhestru. Bydd hyn bron yn sicr ar gyfer gwneud addasiadau. Bydd newid defnydd adeilad hefyd yn debygol o fod angen caniatâd adeilad rhestredig.
Fel arfer bydd angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig. Dyma’r achos hefyd ar gyfer unrhyw waith ehangu all gael effaith ar gymeriad unrhyw adeilad. Ceir tybiaeth o blaid cadwraeth adeiladau rhestredig.
Mae’n drosedd cyfreithiol i altro adeilad rhestredig cyn derbyn caniatâd adeilad rhestredig statudol oddi wrth yr awdurdod cynllunio lleol. Gall perchenogion neu bersonau sydd yn gwneud gwaith heb dderbyn caniatâd gael eu herlyn.
Cyn y gwneir cais am ganiatâd adeilad rhestredig byddai’n dda o beth i drefnu cyfarfod gyda swyddog cadwraeth yr awdurdod lleol i drafod manylion yr addasiadau bwriedir i’r adeilad. Gellir rhoddi cyngor yng nghyswllt y dyluniad a’r deunyddiau sydd i’w defnyddio i wneud unrhyw newidiadau arfaethedig.
Bydd y swyddog cadwraeth yn gallu darparu cyngor p’run a yw’r cynigion yn briodol ac yn cydymdeimlo â chymeriad gwreiddiol yr adeilad. Gellir hefyd roddi cyngor ar yr hyn a ddisgwylir o gais cyn ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.
Os nad ydych yn sicr a yw adeilad wedi’i restru ai peidio argymhellir eich bod yn cysylltu â’r awdurdod cynllunio lleol sydd â chyfrifoldeb statudol dros gynnal a chadw’r gofrestr ar gyfer y cyhoedd.
Mae grant adeilad hanesyddol ar gael oddi wrth Cadw. Mae’r grant hwn ar gyfer adeiladau o deilyngdod hanesyddol neu bensaernïol eithriadol. Gall y grant helpu i drwsio neu adnewyddu adeiladau hanesyddol yng Nghymru. Nid oes raid i adeilad fod yn un rhestredig er mwyn ei ystyried ar gyfer grant ond fel arfer fe gaiff ei restru yn fuan iawn wedyn.
Am wybodaeth bellach ynglyn â’r grant adeilad hanesyddol ewch i’r adran cysylltiadau ar wefan yr Amgylchedd Adeiledig a Thirwedd lle mae’r manylion am sut i gysylltu â Cadw ar gael. Mae cyngor ar adeiladau rhestredig i’w gael gan uwch swyddog cynllunio (swyddog cadwraeth). Gweler y tab “cysylltiadau” uchod am ein manylion cyswllt.




