Sut ydw i'n gwneud cais am reoliadau adeiladu?
Os yw eich gwaith adeiladu’n destun i’r Rheoliadau Adeiladu, gallwch gwblhau’r ffurflen cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.
Mae dwy ffordd o ymgeisio:
- adneuo’r cynlluniau llawn
- rhoi rhybudd adeiladu
Beth yw’r Gwahaniaeth?
Cynlluniau Llawn
Am gais cynlluniau llawn, mae’n rhaid cynhyrchu cynlluniau sy’n dangos yr holl fanylion lluniadol, gorau oll cyn i chi ddechrau adeiladu. Bydd y cais yn cael ei wirio’n ofalus iawn gennym ac mae’n bosibl y byddwn y gofyn i chi wneud gwelliannau i’r cynlluniau cyn rhoi cymeradwyaeth. Mae’n bosibl y byddwn yn ychwanegu amodau at gymeradwyaeth, gyda chytundeb ysgrifenedig gennych.
Rhybudd Adeiladu
Archwilir y gwaith adeiladu wrth iddo fynd yn ei flaen, gyda’r weithdrefn Rhybudd Adeiladu. Bydd y syrfëwr rheoli adeiladu’n eich cynghori, os na fydd y gwaith yn cydymffurfio ar unrhyw gyfnod â’r rheoliadau. Fodd bynnag, os bydd angen gwybodaeth bellach ynghylch eich cynnig ar unrhyw adeg, un ai cyn y dyddiad dechrau neu yn ystod yr adeiladu, byddwn yn gofyn i chi ddarparu’r manylion ar ein cyfer. Mae’n rhaid i chi deimlo’n hyderus bydd y gwaith yn cydymffurfio â’r rheoliadau, neu byddwch yn mentro gorfod ei gywiro ar gais y cyngor.




