Creu dolen i'r safle
Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gyd-gysylltu gyda ni a drwy lincio i’r safle rydych yn cytuno i’n termau ac amodau.
Os byddwch chi’n dymuno defnyddio testun fel dolen i safle we Cyngor Sir Ynys Môn, dylech ddisgrifio’r wefan fel hyn:
Safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn - gwybodaeth a gwasanaethau llywodraeth leol arlinell.
Defnyddio graffigau ar gyfer dolen
Yn ogystal â’r testun uchod, fe allwch chi ddefnyddio’r graffeg â amgaeeir isod fel dolen gweledol i safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn.
Gellir defnyddio’r logo mewn dau gyfuniad lliw:
- Logo ar gefndir gwyn - gellir defnyddio’r logo ar unrhyw liw arall ond bydd rhaid ei roi mewn blwch gwyn
- Logo ar gefndir las - ni ddylid defnyddio’r logo yma ar gefndir gwyn. Gellir ei ddefnyddio ar unrhyw liw arall, ond mae rhaid ei roi mewn blwch glas
Mae’n bwysig dilyn y canlynol:
- Mae rhaid i’r atgynhyrchiad fod yn gyson a ni ddylid newid ei ddyluniad na’i gyfrannedd. Peidiwch leihau maint y graffeg
- Ni ddylid newid dyluniad y logo mewn unrhyw ffordd
- Ni ddylid gwahanu y symbol a’r testun
- Mae’r dyluniad yn hollol ddwyieithog a dylai gynnwys testun mewn Cymraeg a Saesneg
- Peidiwch â lleihau maint y graffeg gan na fydd modd darllen y testun os gwneir hynny.
Os oes angen fersiynau eraill o’r logo mewn maint mwy / fformat gwahanol ar gyfer pwrpas print, cysylltwch â’n Tîm Graffeg.
ffôn: (01248) 752485
ebost: graphic1@ynysmon.gov.uk
Perthynas â safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn
Ni ddylech geisio cysylltu gyda safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn â’ch safle neu gydag unrhyw gynnwys nad yw’n perthyn i safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn. Ni ddylech chwaith honni bod safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn yn rhoi sêl bendith i chi nac yn eich cymeradwyo chi, eich gwefan nac unrhyw gynnyrch neu gynnwys nad yw’n perthyn i safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn
Fframio a chyd-destun cynnwys safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn
Nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Rhaid llwytho tudalennau i ffenestr lawn y defnyddiwr. Ni ddylech chi osod unrhyw graffigau, na chwarae deunydd sain, dros gynnwys safle gwe Cyngor Sir Ynys Mon, na chaniatáu i ffenestr bowld ymddangos ar yr un pryd â chynnwys safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn
Dileu dolen
Os byddwn ni’n cysylltu â chi i ddileu eich linc i safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn, rhaid i chi wneud hynny ar unwaith.
Mwy o wybodaeth am greu dolen
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am greu dolen i safle gwe Cyngor Sir Ynys Môn, cysylltwch â ni drwy webmaster@ynysmon.gov.uk




