Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaeth Iechyd y Porthladd


Mae’r adran Gwarchod y Cyhoedd yn gweithredu gwasanaeth Iechyd y Porthladd yn ystod dyddiau’r wythnos rhwng 9am a 5pm. Mae’r tîm hwn yn ymgymryd â:

  • archwiliadau a dosbarthu tystysgrifau glanweithdra llongau
  • profi dŵr yfer a phrofi am glefyd y llengfilwr (Legionella) ar longau mewn porthladdoedd neu farinâu ar Ynys Môn
  • clirio ardystiadau datganiadau meddygol ar gyfer Iechyd ar longau rhyngwladol sy’n cyrraedd er mwyn codi cwarantîn
  • rheolyddion clefydau heintus
  • diogelwch bwyd ar longau mewn porthladdoedd
  • llesiant y criw ar longau mewn porthladdoedd
  • rheolyddion mewnforio ar gyfer
    • deunydd plastig sy’n cyffwrdd bwyd
    • cynnyrch organig
    • bwyd a bwyd anifeiliaid sydd angen gwiriad Iechyd a Ffytoiechydol wrth y ffin
  • clirio cynnyrch pysgodfa yn unol â deddfwriaeth pysgota anghyfreithlon ac anrheoleiddiedig nas hysbysir amdano

BTOM (Model Gweithredu Targed y Ffin) – Archwiliadau SPS drwy Borthladd Caergybi 2024

Gofyniad cyn hysbysu

O 31 Ionawr 2024, mae’n ofyniad cyfreithiol bod SPS yr UE sy’n croesi i mewn i Borthladd Caergybi fel mewnforion i’r DU, neu sy’n defnyddio pont dir y DU, yn cyflwyno hysbysiad ymlaen llaw ar-lein drwy borth DEFRA, a elwir yn IPAFFS.

Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i fewnforion risg Isel, Canolig ac Uchel. Rhaid cyflwyno’r hysbysiad 24 awr cyn cyrraedd.

Eithriad Gogledd Iwerddon

Mae eithriad yn bodoli ar gyfer Nwyddau Cymwys o Ogledd Iwerddon nad oes rhaid iddynt ddarparu hysbysiad ymlaen llaw.

Mae’r rheol hwn yn berthnasol i’r teithiau anuniongyrchol hynny sy’n croesi o Ogledd Iwerddon, drwy Weriniaeth Iwerddon ac ymlaen i’r Deyrnas Unedig, er mwyn sicrhau bod gan nwyddau o Ogledd Iwerddon fynediad dirwystr i farchnad y DU.

Mae’n rhaid glynu wrth reolau tollau CThEF.

Categorïau risg

Rydym yn annog yr holl fewnforwyr i ddeall categorïau risg y nwyddau maen nhw’n eu symud, ac i ddarparu hysbysiadau ymlaen llaw yn gywir.

Check import risk categories and related rules for animals and animal products imported from the EU to Great Britain, from 31 January 2024 - GOV.UK

Tystysgrif Iechyd Allforio’r DU

O 31 Ionawr 2024, bydd gofyniad ychwanegol i gyflwyno Tystysgrif Iechyd Allforio’r DU gyda hysbysiadau IPAFFS risg Canolig ac Uchel.

Mae’r newidiadau mewnforio newydd hyn yn berthnasol i:

  • anifeiliaid byw
  • cynnyrch bwyd anifeiliaid (POAO)
  • bwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid (HRFNAO)
  • chynnyrch planhigion

Arolygiadau ar gyfer Porthladd Caergybi yn y dyfodol

Mae Gwasanaeth Iechyd y Porthladd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn deall pryd fydd archwiliadau yn y dyfodol yn dechrau ym Mhorthladd Caergybi.

  • Gallwn gadarnhau nad oes  archwiliadau SPS Iechyd Porthladd yn digwydd ar gyfer traffig sy’n cyrraedd o’r UE. Felly, nid oes ffioedd archwilio yn dod i rym. Mae un eithriad, a hynny yw symud pysgod a chynnyrch pysgod drwy Borthladd Caergybi ar gyfer rheolyddion Pysgota Anghyfreithlon ac Anrheoleiddiedig nas Hysbysir Amdano. Dylid darparu hysbysiad ar gyfer y mewnforion hyn drwy ein porth ar-lein, nid drwy dîm iechyd y porthladd. 
  • Rydym yn cadarnhau bod rhaid i lwythi o Weddill y Byd (o fewn yr UE), nad ydynt wedi cael eu harchwilio, gael mynediad i’r DU drwy borthladd arall os ydynt yn dilyn llwybr mewnforio T2. Rhaid i gynnyrch o’r fath sy’n cael ei gludo (heb ei archwilio yng Ngweriniaeth Iwerddon o darddiad Gweddill y Byd) gael mynediad i’r DU drwy Borthladd gyda chyfleuster archwilio Safle Rheolaethau’r Ffin (BCP) wedi’i gymeradwyo ar gyfer cynnyrch penodol. BCP, CP, and IC Locations for Plants – Google My Maps 
  • Mewn perthynas â’r Tâl Cyffredin i Ddefnyddwyr ar gyfer BCP Caergybi, rydym yn disgwyl canlyniadau ymgynghoriad Llywodraeth y DU, a byddwn yn diweddaru’r dudalen hon pan fydd canllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi.
  • Mewn perthynas â’r cwestiwn ynghylch rhanddirymiad i ofyniad IPAFFS i ddarparu hysbysiad 24 awr ymlaen llaw, ni allwn weithredu rhanddirymiad o’r fath oherwydd statws cynweithredol ein cyfleuster. Rhaid cyfeirio ymholiadau o’r fath at import@apha.gov.uk
  • Rydym yn pwysleisio bod gofyniad Llu’r Ffiniau a CThEF yn wahanol i’n rôl ni.

Dylid cyfeiriad Ymholiadau Iechyd y Porthladd at porthealth@ynysmon.llyw.cymru

Gwybodaeth bellach

Gwefan Llywodraeth Cymru

Gweminarau DEFRA

Mewnforio pysgod