Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Polisi Sŵn

Polisi sŵn Cyngor Sir Ynys Môn
  1. Pan dderbynnir cwyn un ai ffurflen ar-lein, dros y ffôn, drwy lythyr, e-bost neu trwy gynghorydd cyfeirir y gwyn at swyddog cyn gynted ag y bo ydym yn cadw cofnod o’r gwyn. Ni fydd cwynion dienw yn cael eu hymchwilio.
  2. Pan dderbynnir cwyn un ai ffurflen ar-lein, dros y ffôn, drwy lythyr, e-bost trwy gynghorydd cyfeirir y gwyn at swyddog cyn gynted ag y bo ydym yn cadw cofnod o’r gwyn ac fel arfer ni ymchwilir i gwynion a gyflwynir yn ddienw.
  3. Gofynnir i’r achwynydd wneud cwyn Bydd raid iddynt roddi eu henwau a’u cyfeiriadau ynghyd â lleoliad y sŵn. Yn ogystal, bydd angen iddynt egluro sut neu pam y meant o’r farn bod y sŵn yn peri niwsans. Unwaith y bydd cwyn ysgrifenedig wedi dod i law ac ynddi’r manylion angenrheidiol, anfonir llythyr cyntaf anffurfiol i’r person sy’n gyfrifol am y niwsans honedig cyn pen pump diwrnod gwaith. Fe ddywed y llythyr hwn y derbyniwyd cwyn, natur y sŵn y cafwyd cwyn yn ei gylch a pha gamau ymchwilio pellach y gellir eu cymryd gan yr awdurdod lleol oni fydd y sefyllfa yn gwella, er engrhaifft cadw taflenni cofnod o’r sŵn ac yn y pen draw monitro sŵn. Rhoddir cyfnod amser o tri mis fel arwydd o’r cyfnod y gellir cynnal ymchwiliadau pellach ynddo.
  4. Yn dilyn y llythyr cwyno cyntaf, anfonir ateb i’r achwynydd cyn pump diwrnog gwaith. Bydd y llythyr yn eu hysbysu ynghylch y camau y mae’r awdurdod lleol wedi eu cymryd ac yn gofyn iddynt roddi manylion am unrhyw ddigwyddiadau pellach mewn perthynas â sŵn ar daflenni cofnod a fydd yn cael eu hanfon atynt. Dibynnu ar y amgylchiadau, gall y swyddog ymchwilio awgrymu y defnydd o rhaglen feddalwedd I gofnodi a chyflwyno digwyddiadau sŵn i’r awdurdod lleol. Yn yr achos hyn, bydd defnyddwir y gwasanaeth yn cael cyfarwyddiadau ychwanegol i’w ddefnyddio.
    Er mwyn i Adran Iechyd yr Amgylchedd ymchilio unrhyw cwyn niwsans sŵn, mae rhaid i’r achwynydd cwblhau a dychwelyd Ffurflen Tyst Sŵn hefo’r ddogen cofnodi y niwsans.
  5. Os bydd yr achwynydd o’r farn, yn dilyn y llythyr cyntaf, na fu unrhyw ostyngiad boddhaol yn y sŵn a bod taflenni cofnodi yn rhoddi manylion am nifer resymol o ddigwyddiadau yn cael eu dychwelyd i’r adran, cychwynnir ar y camau ymchwilio ffurfiol. Fodd bynnag, dylid nodi os oes amser sylweddol wedi mynd heibio rhwng y llythyr cyntaf a chwynion pellach gan yr achwynydd er enghraifft tri mis, bydd yr adran yn ystyried y gwyn fel un newydd a gall y drefn a amlinellir uchod gychwyn eto.
  6. I ymchwilio yn ffurfiol i gwyn, bydd y swyddog priodol, fel arfer, yn galw yn eiddo’r achwynydd neu’n agos iddo hyd at dair gwaith, (ni fydd yn aros am fwy nag 1 awr bob tro) ar yr adegau y mae’r sŵn yn debyg o gael ei Penderfynir ar yr amseroedd priodol fel arfer trwy gyfeirio at y taflenni cofnodi sŵn a gyflwynwyd yn flaenorol. Os bydd y sŵn yn digwydd y tu allan i oriau gweithio arferol, fel y gwêl y rheolwr iechyd yr amgylchedd yn ddoeth, gellir penderfynu i alw hefo’r achwynydd (bydd yr alwad wedi ei threfnu o flaen llaw) mewn ymdrech i gael clywed sŵn neu gellir gadael offer recordio sŵn yn yr eiddo a gofyn i’r achwynydd gofnodi’r sŵn pan fo’n digwydd. Gadewir yr offer yn eiddo’r achwynydd am gynfod o amser i’w benderfynu arno gan y rheolwr, ond fel arfer, bydd raid i’r cyfnod hwnnw fod yn ddigon hir i gael ‘darlun’ o’r sŵn a cwynir amdano. Penderfynir ar hyn trwy archwilio’r taflenni cofnodi sŵn a gflwynir gan yr achwynydd.
  7. Wedi cwblhau’r ymchwiliad ffurfiol hysbysir yr achwynydd un ai fod yr adran yn bwriadu cyflwyno Rhybudd Atal Sŵn neu fe all yr awdurdod hysbysu’r achwynydd nad oedd y sŵn, yn ei farn ef, yn niwsans efallai y bydd yr achwynydd ar hyn o bryd yn dymuno symud ymlaen i ddwyn achos preifat yn erbyn y person dan sylw. Gellir cael cyngor ar hyn ac ar ‘Niwsans Statudol’ sydd ar gael yn yr adran.
  8. Ni fydd yr adran yn dweud pwy ydi’r achwynydd yn ystod yr ymchwiliadau cychwynnol i’r niwsans fodd bynnag, mae’n hawdd tybio yn aml pwy ydi’r achwynydd. Ni fydd yr adran yn symud ymlaen i gymryd camau ffurfiol yn erbyn person sy’n gyfrifol am niwsans sŵn oni dderbyniwyd cadarnhad ysgrifenedig gan yr achwynydd ei fod ef/hi yn barod i wneud datganiad ac ymddangos yn y llys petai angen.
  9. Ar ôl i rybudd gael ei gyflwyno, efallai y bydd y troseddwr honedig yn dymuno cyflwyno apêl yn erbyn unrhyw beth a fynnir ganddo. Gwneir hyn mewn Llys Ynadon ac fe all y cyngor alw ar yr achwynydd fel tyst i gefnogi ei gais, os bydd Yr un modd, oni fydd y sŵn wedi gostegu ar ôl i’r Rhybudd gael ei gyflwyno, efallai y bydd y cyngor yn penderfynu dwyn achos yn erbyn y person sy’n achosi’r niwsans ac efally y bydd angen i’r achwynydd gyflwyno tystiolaeth.

Cafodd y polisi sŵn hwn ei lunio gan roddi ystyriaeth i lunio:

  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Deddf Rheoli Ymchwilio 2000

Prif Swyddog Gwarchod Y Cyhoedd
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfeydd y Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW

Ffôn: (01248) 752 820

Ebost: ehealth@ynysmon.llyw.cymru