Gwasanaethau'r Cyngor:

Cyfle i chi fod yn Warden Ifanc AHNE Ynys Môn

Mae Wardeiniaid Ifanc AHNE Ynys Môn yn brosiect arloesol gyda’r nod o greu diddordeb ymysg pobl ifanc yn y dirwedd ac yn nhreftadaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn.

Nod y prosiect yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc, hyrwyddwyr a gwarchodwyr dyfodol yr AHNE, i gymryd rhan mewn gwarchod a gwella’r ardal, wrth gael hwyl, dysgu sgiliau newydd a chael profiadau gwerthfawr yn yr awyr agored.

I bwy:

Mae’r cynllun wedi’i dargedu at bobl ifanc 13 - 15 oed, sydd yn byw o fewn ac o gwmpas ardal Amlwch. Mae deuddeg person ifanc wedi eu recriwtio i fod yn Wardeiniaid Ifanc a byddant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored fydd yn eu darparu gyda sgiliau newydd a gwell dealltwriaeth o’u hamgylchedd lleol.

Mae’r cynllun yn cael ei rheoli gan Gwasanaeth Cefn Gwlad ac AHNE Cyngor Sir Ynys Môn, gyda chymorth agos gan Bartneriaeth Adfywio Amlwch. Mae’r Wardeiniaid Ifanc hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda sefydliadau eraill sydd yn helpu gwarchod a gwella’r AHNE, megis; Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, GeoMon a Menter Môn.

Beth a phryd:

Mae’r Wardeiniaid Ifanc yn cwrdd unwaith y mis am ddiwrnod llawn o weithgareddau. Maent yn cymryd rhan mewn rhaglen blwyddyn o hyd sydd yn cynnwys gweithgareddau megis; cyfeiriannu, walio cerrig sych, bushcraft, rheoli cynefin, archaeoleg a daeareg. Trwy gydol y flwyddyn bydd y Wardeiniaid Ifanc yn gweithio tuag at ennill cymhwyster Gwobr John Muir.

Lansiwyd prosiect Wardeiniaid Ifanc AHNE Ynys Môn yn Hydref 2011 diolch i gymorth ariannol O £8,600 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Rhwydwaith Wardeiniaid Ifanc Europarc:

Mae prosiect Wardeiniaid Ifanc AHNE Ynys Môn wedi ei fodelu ar gynllun Europarc - sefydliad ymbarél ar gyfer tirweddau gwarchodedig Ewrop. Mae cynllun Wardeiniaid Ifanc Ffederasiwn Europarc yn fenter Ewropeaidd i roi cyfle i bobl ifanc i ddarganfod am dirwedd warchodedig a dysgu am ddulliau cadwraeth mewn ffordd ymarferol.

Diweddariad diwethaf: 5 Rhag 2011 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?