Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cydraddoldeb ac amrywiaeth


Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gwneud ymrwymiad i ymwrthod ag unrhyw gamwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae’n gofalu bod chwarae teg i bawb trwy roi terfyn ar gamwahaniaethu, hyrwyddo cyfleoedd a deilliannau cyfartal a meithrin perthynas dda rhwng gwahanol unigolion a chymunedau. 

Mae’r ddeddf hefyd yn cadarnhau rôl awdurdodau lleol fel arweinyddion o ran gwella cydraddoldeb ymhlith eu cymunedau a’u dinasyddion.

Pwy sy’n cael eu diogelu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010?

Mewn gwirionedd, pawb. Mae’n anghyfreithlon camwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail: 

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol 

Dyma’r nodweddion gwarchodedig o dan y ddeddf.

Rydym wedi ymrwymo i brif ffrydio cydraddoldeb o fewn gwaith y Cyngor ar bob lefel drwy integreiddio ystyriaethau cydraddoldeb o fewn ein strategaethau a’n cynlluniau allweddol.

Adlewyrchir yr ymrwymiad yma yn ein polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth â’n cynllun cydraddoldeb strategol.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.
Archif: Adroddiadau blynyddol ar gydraddoldeb