Gwasanaethau'r Cyngor:

Dilyn hanes eich teulu - chwiliadau ym mynegeion genedigaethau, priodasau a marwolaethau

Os ydych yn dymuno olrhain eich hanes teulu drwy gofnodion genedigaeth, priodasau a marwolaeth Ynys Môn, yna gallwn olrhain y digwyddiad i chi a chyflenwi tystysgrif cyhyd a byddwch yn darparu digon o wybodaeth cefndirol.

Darparwch y wybodaeth canlynol gyda’ch cais:

  1. Y math o dystysgrif: geni, priodas neu marwolaeth
  2. Enw neu enwau y personau
  3. Dyddiad y digwyddiad
  4. Lleoliad y digwyddiad
  5. Unrhyw wybodaeth arall

Olrhain eich hanes teulu

Noder:

Mae olrhain eich hanes teulu ar Ynys Môn yn broses anodd gan bod yr ynys wedi’i rhannu i fewn i wyth ardal ar gyfer genidegaethau a marwolaethau gyda mynegai ar gyfer pob un.  Roedd 82 eglwys ar yr ynys a phob un gyda’i fynegai ei hyn ynghyd a mynegai ar gyfer pob capel - mae hyn yn golygu archwilio eang.

Os oes gennych ragor o ddiddordeb mewn hanes teulu neu hanes lleol, dilynwch y ddolen isod i dudalenau’r Gwasanaeth Archifau.

Noder: ni chofrestrwyd rhai genidegaethau cyn 1872.

Ar gyfer canlyniadau cyfrifiad a  ffynnonellau cyn 1837, cysylltwch â Gwasanaeth Archifau Ynys Môn

Ceir fynegai i briodasau ar Ynys Môn 1837-1937 ar cd yn y llyfrgelloedd mwyaf ac yn yr Archifau. Mae mynegai i rai genedigaethau ar gael yn yr Archifau.

Gellir archebu tystysgrifau copi ar safle we y Swyddfa Cofrestru Cyffredinol, drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu credyd. 

Cysylltwch â ni:

Ceir tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth ar gyfer Ynys Môn o Orffennaf 1837 ymlaen gan y Cofrestrydd Arolygol, Neuadd y Sir ,Lôn Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW, ffôn. 01248 724762, ebost mgxcs@anglesey.gov.uk

Drwy apwyntiad - Oriau Agor - Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau, 10yb-2yh, Dydd Gwener 12-4yh.

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Gofrestru

Swyddfa Gofrestru
Neuadd y Sir
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Caergybi:
Ffôn: (01407) 761102
Llangefni
Marwolaethau a genedigaethau 01248 751925
Priodasau 01248 751926 / 01248 751927
Ebost:cofrestryddion@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 10 Tach 2010 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?