Dywedwch Wrthym Unwaith
Mae’r gwasanaeth “Dywedwch Wrthym Unwaith” yn eich galluogi i ddweud wrthym ni unwaith a byddwn yn hysbysu’r adrannau llywodraeth a’r gwasanaethau awdurdod lleol o enedigaeth neu farwolaeth yn eich teulu.
Pan fydd rhywun yn marw, neu pan fyddwch chi’n cael babi newydd, mae llawer o bethau sydd angen eu gwneud. Un o’r pethau hyn yw cysylltu ag adrannau’r llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol. Hyd yn hyn mae wedi bod yn angenrheidiol i chi gysylltu â hwy i gyd yn unigol.
Rydym yn darparu gwasanaeth a all eich helpu chi roi’r wybodaeth i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Os ydych eisiau gallant hwy wedyn basio’r wybodaeth hyn ymlaen i nifer o sefydliadau eraill.
Sut y gall y gwasanaeth eich helpu chi
Pan fydd rhywun wedi marw, mae angen cofrestru’r farwolaeth gyda’r Cofrestrydd. Unwaith y mae hynny wedi’i wneud, bydd rhaid cysylltu â nifer o sefydliadau eraill gan roi’r un wybodaeth er enghraifft gwasanaethau gofal cymdeithasol, budd-daliadau cymorth, bathodyn glas, llyfrgelloedd, asiantaethau thrwyddedu cerbydau a gyrwyr a gwasanaethau pasbord
Yn yr un modd pan fydd babi newydd yn cael ei eni mae’n rhaid i chi gysylltu â nifer o adrannau’r llywodraeth a gwasanaethau awdurdod lleol sydd angen cael gwybod am yr enedigaeth. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud hyn cyn gynted â phosibl gan y gallai hynny effeithio ar eich hawliau, fel Budd-dal Plant, Credydau Treth Gwaith neu Gredydau Treth Plant. Gall defnyddio’r gwasanaeth hwn, pan mae rhai amodau wedi cael eu bodloni, i helpu i gyflymu cais am Gredyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith gyda Chyllid a Thollau EM os ydych yn derbyn budd-daliadau sy’n berthnasol i’ch incwm (ee Cymhorthdal Incwm, neu rai mathau o Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth).
Wrth gynnig y gwasanaeth ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ rydym yn gobeithio y bydd yn gwneud pethau’n haws i chi. Dim ond dweud wrthym, a byddwn yn cysylltu ag adrannau’r llywodraeth a gwasanaethau’r cyngor fel nad oes rhaid i chi.
Sut mae’n gweithio?
Pan fyddwch yn ein ffonio i wneud eich apwyntiad i gofrestru genedigaeth neu farwolaeth yn y Swyddfa Gofrestru, bydd y gwasanaeth ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ yn cael ei egluro i chi a byddwn yn gofyn os ydych yn dymuno cymryd rhan. Os byddwch yn dewis cymryd rhan, bydd y Cofrestrydd yn gosod y manylion ar y gronfa ddata ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ cenedlaethol. Mae hyn fel arfer yn cymryd tua phum munud ar ddiwedd y cofrestriad.
Unwaith y bydd y manylion wedi’u rhoi ar y gronfa ddata cenedlaethol, yn llawn cynhelir cyfweliad ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’. Gellir gwneud hyn naill ai wyneb-yn-wyneb (gyda Cofrestrydd Ynys Môn) neu dros y ffôn os dymunir.
Wyneb-yn-wyneb
Gallwch wneud apwyntiad ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ gydag un o’n Cofrestryddion ar yr un pryd â chofrestru genedigaeth neu farwolaeth neu ar ddyddiad diweddarach os yw hynny’n fwy cyfleus. Ffoniwch 01248 723958 i drefnu apwyntiad.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01248 723958
Dywedwch Wrthym Unwaith - mudiadau byddwn yn cysylltu ar eich rhan
Dyma restr o’r mudiadau fyddwn yn cysyllyu ar eich ran os dymunwch:
Dywedwch Wrthym Unwaith - sut y byddwn yn trin y wybodaeth rydych yn ei roi i ni
Byddwn yn trin y wybodaeth a rydych yn ei roi i ni yn ddiogel a chyfrinachol.
Dywedwch Wrthym Unwaith - gwybodaeth y byddwch angen i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Er mwyn sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei roi i unrhyw sefydliadau yr ydym yn cysylltu â hwy ar eich rhan ac fel eich bod yn cael y mwyaf o’r gwasanaeth byddai’n helpu pe baech yn dod a’r wybodaeth ganlynol.




