Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cofrestru geni


Mae ein swyddgion cofrestru yma i’ch cynghori mewn ffyrdd professiynol a chyfrinachol.

Os oes gennych ymholiadau eraill, cysylltwch â’r Brif Swyddfa yn Llangefni a byddem yn hapus i gynnig cymorth.

Yn gyfreithiol bydd rhaid i’r geni gael ei gofrestru oddi fewn i 42 diwrnod o geni’r plentyn.

Os ganwyd eich plentyn mewn cyfeiriad yn Ynys Môn, yna bydd rhaid cofrestru y geni gyda Swyddfa Gofrestru Ynys Môn.

Ond mae’n bosib i chi fynd i unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru neu’n Lloegr i gynnig y manylion anghenrheidiol. Bydd y manylion yn cael ei danfon atom a mi wnawn ni gofrestru’r geni a danfon y tystysgrif geni atoch. Pe bai eich plentyn yn cael ei eni tu allan i’r sir, mae’n bosib i chi ddod yma a mi wnawn ni ddanfon y manylion ymlaen i’r ardal briodol. Ni chewch unrhyw dystysgrifau gennym os ydych yn dewis yr optiwn yma. Os ydych angen tystysgrifau uchwanegol yn ogystal i’r dystysgrif statudol byr sydd am ddim, dylsech ddod a’ch llyfr siec er mwyn i’r taliad gael ei ddanfon gyda’r manylion.

Os oedd y rhieni’n briod pan aned y plentyn, gall y fam neu’r tad gofrestru’r babi.

Fodd bynnag, os nad oedd y rhieni’n briod, dim ond os bydd y fam a’r tad yn mynd efo’i gilydd i’r Swyddfa Gofrestru i gofrestru’r enedigaeth y gellir cofnodi manylion y tad ar y gofrestr.

Os nad ydych yn briod, ac eisiau cynnwys manylion y tad ar y gofrestr, ond os na all fod yn bresennol am unrhyw reswm, cysylltwch efo’r Swyddfa Gofrestru am gyngor pellach.

Nodyn i gyplau di-briod

O 1 Rhagfyr 2003, bu newid yn y gyfraith, oedd yn ei gwneud yn haws i dadau di-briod gael cyfrifoldeb rhieni cyfartal. I wneud hyn, rhaid i’r ddau riant gofrestru genedigaeth y babi gyda’i gilydd.

Mae cael cyfrifoldeb rhieni am eich plentyn yn rhoi hawliau cyfreithiol pwysig i chi yn ogystal â chyfrifoldebau. Heb y rhain, does gennych ddim hawl i gael eich cynnwys mewn penderfyniadau am y plentyn, fel  ble mae nhw’n byw, eu haddysg, crefydd neu driniaeth feddygol. Gyda chyfrifoldeb rhieni, bydd y gyfraith yn eich trin fel rhiant a bydd gennych gyfrifoldeb cyfartal wrth fagu’r plentyn.

Mae gan Parentline Plus linell gymorth am ddim, lle cewch drafod yr opsiynau a gofyn am gyngor. Gallwch eu ffonio ar 0808 800 2222 neu Ffôn testun 0800 783 6783.

Babi

  • Dyddiad a man geni y babi. Os yw’r geni yn un o efelliaid a.y.b bydd rhaid i’r Cofrestrydd wybod amser geni pob un o’r plant.
  • geneth neu hogyn
  • cyfenw a enw’r babi

Tad (ble mae’r manylion i’w cynnwys yn y gofrestr)

  • ei enw a’i gyfenw
  • dyddiad a man geni
  • ei waith ar adeg geni’r babi neu, pe bai o ddim yn gweithio, y swydd blaenorol.

Mam

  • ei henw cyntaf a’i chyfenw, bydd angen ei henw cyn priodas os ydi wedi priodi.
  • dyddiad a man geni
  • ei gwaith (dim yn orfodol) os ydi wedi gweithio ar unrhyw adeg cyn y geni.

Bydd y cofrestydd yn nodi i lawr y manylion a gofynir i chi sicrhau eu cywirdeb. Bydd y wybodaeth yn cael ei sgwennu mewn cofrestr a gofynnir i chi ei ddarllen yn ofalus cyn arwyddo i gadarnhau ei fod yn gywir. Mae’n bysig fod y cofnod cyfreithiol hwn yn cael ei archwilio cyn ei arwyddo, gan ei fod yn anodd ei gywiro ar amser arall. Os ydych yn ansicr am unrhywbeth, gofynnwch i’r Cofrestrydd am gymorth.

Cyffredinol

Os oedd y rhieni yn briod ar adeg  y geni bydd y Cofrestydd yn gofyn am ddyddiad y briodas.

Os ydi’r fam wedi cael plant eraill gyda’r gwr presennol neu unrhyw wr blaenorol bydd rhaid i’r cofrestydd wybod faint o blant sydd ganddi.

Cofiwch bydd rhaid i un o’r rhieni gofrestru y geni yn bersonol; ni fedrwch ofyn i ffrind neu berthynas ddod i fewn ar eich rhan. 

Yn arferol rhoddir cyfenw’r tad (hyd yn oed os yw’r rhieni yn ddi briod ac os nag ydi’r tad yn dod gyda’r fam).

Caiff y cyfenw ei newid ond os:

  • bydd y rhieni yn gofyn i’r cyfenw gael ei ail gofrestru oherwydd maent yn ddi briod a ni roddwyd manylion y tad yn y cofrestr.
  • mae’r rhieni yn briodi ei gilydd ar ôl y cofrestru gwreiddiol - dylai ail gofrestru y genidgaeth hyd yn oed os yw’r plentyn wedi cael enw’r tad yn y cofrestr gwreiddiol.

Bydd y Cofrestydd yn hapus i’ch cynghori ar y ddau fath o ail gofrestru.

Rhestr Achrededig Profi Tadogaeth wedi cael ei gyfeirio gan Lys.

Gweler safle we ‘justice’