Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cofrestru mabwysiad


Mae cofnodion o fabwysiadau yng Nghymru a Lloegr yn cael eu dal gan y Cofrestrydd Cyffredinol. Mae’r rhain yn berthnasol i bobl sydd wedi cael eu mabwysiadu o’r 1 o fis Ionawr 1927 o dan y Ddeddf Mabwysiadu.

Mae tystysgrif safonol yn gopi cyflawn o’r cofnod cyntaf i mewn i’r Gofrestr Plant Mabwysiedig sydd, yn hytrach na rhoi manylion rhieni’r plentyn a chofnod o’r enedigaeth, yn nodi’r dyddiad geni (os ydyw ar gael) a manylion y mabwysiad a’r rhieni mabwysiedig. Mae tystysgrif fer yn dangos enw yn unig, ac nid yw’n cyfeirio at y mabwysiad o gwbwl.

Dyle’r ceisiadau am dystysgrifau cais am fabwysiadau gael eu cyflwyno yn ysgrifenedig i’r Adran Fabwysiadu, Swyddfa’r Ystadegau Cenedlaethol, Smedley Hydro, Birdale, Southport PR8 2HH