Gwasanaethau'r Cyngor:

Marwolaeth, angladdau ac amlosgiad

Y pethau angenrheidiol – beth i’w wneud gyntaf

  • rhoi gwybod i’r meddyg teulu
  • cysylltu gyda threfnwr angladdau os ydych yn bwriadu defnyddio un; gall eu cymorth fod yn amhrisiadwy ac os yw’r farwolaeth yn digwydd mewn cartref nyrsio neu gartref, bydd y trefnwr angladdau yn symud yr ymadawedig i gapel gorffwys.
  • rhaid cael tystysgrif feddygol yn nodi achos y farwolaeth wedi ei llofnodi gan feddyg neu, os yw’r crwner yn rhan o’r trefniadau, cymryd cyfarwyddiadau gan swyddfa’r crwner ynghylch cofrestri’r farwolaeth.
  • cysylltu gyda’r gweinidog crefyddol perthnasol os yw hynny’n briodol
  • cofrestru’r farwolaeth yn y swyddfa gofrestru
  • cael gwybod a oes ewyllys ac os oes, lle mae’r ewyllys a phwy sy’n gyfrifol am ddelio gyda hi
  • cychwyn trefnu’r angladd; siecio am unrhyw ofynion arbennig.

Cofrestru marwolaeth

Fel arfer, dylid cofrestru marwolaeth o fewn 5 niwrnod i ddyddiad y farwolaeth. Fodd bynnag, gall fod eithriadau, er enghraifft, pan fo’r crwner wedi ei ddwyn i mewn. Os yw’r farwolaeth wedi cael ei gyfeirio at y crwner, ni fedrir ei chofrestru hyd oni fydd y cofrestrydd wedi derbyn awdurdod gan y crwner i symud ymlaen i gofrestru’r farwolaeth.

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cofrestru os gwelwch yn dda am ychwaneg o wybodaeth a chyngor os ydych chi’n meddwl bod y crwner yn rhan o’r trefniadau.

Pa ddogfennau a gwybodaeth fydd y Cofrestrydd angen?

Er mwyn cofrestru’r farwolaeth dylech gael:

  • y dystysgrif marwolaeth a roddwyd i chi gan y meddyg oedd yn trin yr ymadawedig. Mae’n rhaid i chi ddod a’r ddogfen hon oddi fewn i 5 diwrnod o’i derbyn
  • tystysgrif geni
  • tystysgrif priodas / partneriaeth sifil
  • rhif NHS / cerdyn meddygol

Os mae’r farwolaeth wedi ei chyfeirio at y crwner:

  • cadarnhad bod y gwaith papur angenrheidiol ar gael i’r cofrestrydd o swyddfa’r crwner. Ar ôl “post mortem”, anfonir ffurflen yn syth o swyddfa’r crwner i’r cofrestrydd neu’r ardal ble digwyddodd y farwolaeth er mwyn i’r farwolaeth
  • gael ei chofrestru

Gwybodaeth ychwanegol:

  • enw a chyfenw’r ymadawedig neu enw morwynol merch ddi-briod.
  • dyddiad a man geni
  • dyddiad a man marw
  • gwaith yr ymadawedig ac os yw’r ymadawedig yn briod neu yn weddw, enw llawn a gwaith ei gwr
    cyfeiriad arferol yr ymadawedig
  • os oedd yr ymadawedig yn briod, dyddiad geni ei b/phriod
  • oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn neu fudd-dâl
  • os yn blentyn, enwau llawn y rhieni, ei gwaith a chyfeiriad llawn y plentyn.

Gweler uchod dolenni at elusennau amrywiol sydd yn arbenigo mewn profedigaeth.

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Gofrestru

Swyddfa Gofrestru
Neuadd y Sir
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Caergybi:
Ffôn: (01407) 761102
Llangefni
Marwolaethau a genedigaethau 01248 751925
Priodasau 01248 751926 / 01248 751927
Ebost:cofrestryddion@ynysmon.gov.uk

Diweddariad diwethaf: 10 Tach 2010 Rhowch adborth ar y dudalen hon
Llyfrnodwch gyda:
| More |

Beth yw'r rhain?