Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cofrestru marwolaeth


Yn ôl y gyfraith, mae angen cofrestru marwolaeth o fewn 5 diwrnod calendr.

Mae'n cynnwys penwythnosau a gwyliau banc, ac mae'n berthnasol i bob marwolaeth nad yw'n cynnwys crwnerI drefnu apwyntiad ar gyfer cofrestru marwolaeth a ddigwyddodd yn Ynys Môn:

Ffoniwch: 01248 751925 

Ebost: cofrestryddion@ynysmon.gov.uk

I gael canllaw gam wrth gam o ran yr hyn i'w wneud pan fydd rhywun yn marw, ewch i wefan GOV.UK (yn Saesneg)

Mewn trefn ddewisol:

  • perthynas i’r ymadawedig, yn bresennol pan fu farw’r person
  • perthynas i’r ymadawedig, yn bresennol yn ystod y salwch diwethaf
  • perthynas i’r ymadawedig yn byw neu yn aros yn yr ardal ble fu farw’r person

Os oes dim perthynas ar gael i gofretru’r marwolaeth:

  • person yn bresennol pan fu farw’r y person
  • deiliad y ty neu sefydliad ble digwyddodd y farwolaeth, os nad oes perthynas sy’n medru cofrestru
  • person sy’n byw yn y ty os ydynt yn gwybod am y farwolaeth. Y person sy’n talu am yr angladd, (dim y Trefnydd Angladdau)

Gwybodaeth ychwalegol fydd eu hangen ynglŷn â’r person sy’n cofrestru’r marwolaeth

  • enw/enwau cyntaf a chyfenw
  • eich cyfeririad cyfredol
  • ei berthynas gyda’r ymadawedig

Rhaid cofrestru’r farwolaeth yn y swyddfa gofrestru yn y rhanbarth lle ddigwyddodd y farwolaeth. Ynyr ardal hon rhaid cofrestu yng Ngaergybi neu Llangefni.

Os ydi hyn yn drafferthus, gallwch fynd at gofrestrydd mewn lle mwy cyfleus yng Nghymru neu Lloegr. Byddant yn nodi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cofrestru’r farwolaeth a’i gyrru at y cofrestrydd cywir drost’och chi. Os ewch chi i weld cofrestrydd y tu allan i’r ardal lle bu farw eich perthynas ni fydd yn cofrestru’r farwolaeth. Ni fydd modd iddo/iddi roi’r dystysgrif ar gyfer y trefnwr angladdau nac unrhyw dystysgrifau eraill. Bydd y rhain yn cael eu postio atoch chi ymhen ychydig ddyddiau gan y cofrestrydd yn yr ardal lle bu farw’r person; y cofrestrydd a gofrestrodd y farwolaeth. Gall hyn achosi oedi i chi wrth drefnu’r angladd.

Cyn i chi benderfynu mynd i swyddfa cofrestrydd y tu allan i’r ardal lle bu’r farwolaeth byddai’n syniad da i hysbysu’r bobl canlynol:

  • y trefnwr angladdau
  • y cofrestrydd ar gyfer yr ardal lle ddigwyddodd y farwolaeth
  • mae trefniadau mewn lle ar gyfer cofrestru marwolaethau mewn argyfwng. Cysylltwch â’r swyddfaGofrestru am fanylion yn ystod oriau gwaith.

Er mwyn cofrestru’r farwolaeth dylech gael:

  • y dystysgrif marwolaeth a roddwyd i chi gan y meddyg oedd yn trin yr ymadawedig. Mae’n rhaid i chi ddod a’r ddogfen hon oddi fewn i 5 diwrnod o’i derbyn
  • tystysgrif geni
  • tystysgrif priodas / partneriaeth sifil
  • rhif NHS / cerdyn meddygol

Os rhoddir gwybod i’r crwner am farwolaeth nad oes angen cwest yn ei chylch (pan fo’r farwolaeth wedi’i hachosi gan glefyd neu salwch naturiol) bydd y dystysgrif ac arni achos y farwolaeth yn cael ei hanfon at y cofrestrydd wedi i’r crwner gwblhau ei ymchwiliadau.

Yna, gellwch fwrw ymlaen i gofrestru’r farwolaeth.

Mewn nifer fechan o achosion - lle mae achos marwolaeth yn aneglur, yn sydyn neu’n amheus - bydd y meddyg , yr ysbyty neu’r cofrestrydd yn rhoi gwybod i’r crwner am y farwolaeth. Yn yr achos hwn, bydd oedi gyda chofrestru’r farwolaeth, oherwydd efallai y bydd angen cynnal cwest.

Mae’n ddyletswydd ar y crwner i ymchwilio i farwolaethau y caiff wybod amdanynt sydd:

  • yn ymddangos eu bod wedi digwydd oherwydd trais  neu esgeulustod
  • yn annaturiol
  • yn sydyn ac o achos anhysbys
  • yn digwydd tra mae’r person yn y ddalfa

Bydd y crwner yn cynnal cyfrinachedd i’r graddau y mae hynny’n bosibl ond dylech gofio bod y system yn seiliedig ar achosion cyhoeddus y llys. Os byddwch yn gofyn am hynny, bydd y crwner yn egluro’r rhesymau am y trefniadau a fabwysiadwyd mewn achosion penodol ar yr amod fod y crwner yn fodlon bod gan y person ddiddordeb priodol ynghyd â hawl i wybod. Nid prawf llys y cwest. Ymchwiliad ydyw i sefydlu pwy oedd yr ymadawedig a sut, pryd a lle bu fawr. Ar ôl y farwolaeth, bydd y crwner yn rhyddhau tystysgrif farwolaeth interim fel y gellir delio gyda’r ystâd. Ar ddiwedd y cwest, bydd y berthynas agosaf yn cael eglurhad ynghylch sut, lle a phryd y gellir cael copi o’r dystysgrif farwolaeth.

  • enw a chyfenw’r ymadawedig neu enw morwynol merch ddi-briod
  • dyddiad a man geni
  • dyddiad a man marw
  • gwaith yr ymadawedig ac os yw’r ymadawedig yn briod neu yn weddw, enw llawn a gwaith ei gwr
    cyfeiriad arferol yr ymadawedig
  • os oedd yr ymadawedig yn briod, dyddiad geni ei b/phriod
  • oedd yr ymadawedig yn derbyn pensiwn neu fudd-dâl
  • os yn blentyn, enwau llawn y rhieni, ei gwaith a chyfeiriad llawn y plentyn

Bydd y Cofrestrydd yn rhoi ffurflen werdd (o’r enw 9W) i’w roi i’r trefnydd angladdau (bydd hyn wedi’i roi mewn ambell amgylchiad gan y crwner) sy’n rhoi hawl ar gyfer claddu neu amlosgiad.

Cewch hefyd ffurflen wen (ô’r enw BD8), i bwrpas pensiwn a nawdd cymdeithasol yn unig. Dylech ei gwblhau ai danfon i’r canolfan gwaith yn Abertawe nau i’ch canolfan waith lleol, canolfan byd gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol. Mae’r tystysgrifau yma am ddim.

Byddech hefyd yn medru prynu am dâl, tystysgrif marwolaeth safonol. Rhain yw copïau o’r cofnod yn y Cofrestr, a byddech ei angen er mwyn delio gydag ystâd yr ymadawedig. Os ydych wedi penderfynu peidio defnyddio cyfreithiwr ac yn delio gyda’r ystâd eich hunain. Gellir talu'r rhain trwy gerdyn debyd neu gredyd.

Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth sy'n gadael i chi riportio marwolaeth i'r rhan fwyaf o sefydliadau'r llywodraeth ar yr un pryd.