Partneriaeth Sifil cydnabyddiaeth gyfreithiol i barau un-rhyw
O Ragfyr 2005, gall parau un-rhyw ledled y DU gael cydnabyddiaeth gyfreithiol i’w perthynas.
O hynny ymlaen, bydd gan unrhyw bâr sy’n cofrestru partneriaeth sifil yr un hawliau â phâr priod o ran pethau fel treth, nawdd cymdeithasol, etifeddu a buddion gweithle.
Cofrestru yng Nghymru a Lloegr?
- mynnwch gyngor a gwybodaeth o wefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Gweler y linc isod.
- penderfynwch ble’r hoffech chi gofrestru. Er enghraifft, mewn swyddfa gofrestru neu gyrchfan wedi’i chymeradwyo fel gwesty.
- pennwch y dyddiad, ond gwnewch yn siŵr y gall y cofrestrydd fod yn bresennol os dewiswch gyrchfan wedi’i chymeradwyo.
- trefnwch i roi rhybudd am eich bwriad i gofrestru i’r awdurdod cofrestru lle mae’r ddau ohonoch yn byw. Mae’n rhaid ichi roi rhybudd o leiaf 15 diwrnod clir cyn y dyddiad cofrestru.
- cofrestrwch. Llofnodwch y ddogfen gyfreithiol yng ngŵydd y cofrestrydd a’ch dau dyst.
Angen mwy o wybodaeth?
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am beth sydd eisiau i gofrestru partneriaeth sifil, neu am yr hawliau a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrthi, ewch i’r Women and Equality Unit.
© Crown Copyright
Uchod gellwch lawrlwytho Llawlyfr Dathliadau Ynys Môn. Nodwch: oherwydd natur y ddogfen yma, nid yw’n hollol hygyrch ac ni fydd modd defnyddio darllenwyr sgrin iw ddarllen.




