Meddwl am briodi?
-
Ynglyn â
-
Cysylltiadau
-
Dogfennau i'w lawrlwytho
-
Mapiau
Os ydych chi wedi penderfynu priodi mewn seremoni sifil ym Môn gallwn eich sicrhau y cewch seremoni arbennig ac unigryw ar gyfer eich anghenion chi.
P’un ai ydych chi eisiau priodas syml neu ddigwyddiad mawreddog, rydym ni yma i’ch helpu chi i drefnu eich diwrnod yn union fel yr ydych chi ei eisiau.
Yn y tudalennau hyn, gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i drefnu eich priodas sifil mewn Swyddfa Gofrestru neu Leoliad wedi’i gymeradwyo, sut i roi rhybudd o briodas ar gyfer priodas sifil neu grefyddol a sut i drefnu i Gofrestrydd fynychu eich priodas grefyddol os oes angen.
Os ydych yn priodi yn yr Eglwys yng Nghymru neu Eglwys Loegr drwy Drwydded Gyffredin neu Ostegion, dylech gysylltu efo’ch Ficer ynglyn ag unrhyw raghysbysiadau cyfreithiol angenrheidiol.
Os ydych yn priodi mewn unrhyw fath arall o eglwys neu gapel neu mewn seremoni sifil mewn Swyddfa Gofrestru neu leoliad wedi’i gymeradwyo, rhaid rhoi rhybudd o briodas yn bersonol i’ch Cofrestrydd Arolygu lleol.
Rhaid i’r ddau ohonoch fod wedi byw mewn ardal gofrestru yng Nghymru neu Loegr am o leiaf saith niwrnod cyn rhoi hysbysiad yn y Swyddfa Gofrestru.
Os yw’r ddau ohonoch yn byw yn yr un ardal, dylai’r ddau ohonoch fynd i’r Swyddfa Gofrestru leol i roi hysbysiad am y briodas.
Os ydych yn byw mewn ardaloedd cofrestru ar wahân, yna bydd angen i’r ddau ohonoch roi rhybudd yn eich ardal eich hun.
Gallwch roi rhybudd o briodas hyd at flwyddyn cyn diwrnod eich priodas. Unwaith y bydd y ddau ohonoch wedi rhoi rhybudd, rhaid i chi aros pymtheg diwrnod pellach cyn gallu priodi. Cysylltwch efo’r Swyddfa Gofrestru i gael rhagor o gyngor cyn gynted ag y byddwch wedi penderfynu priodi. Gweler y ddolen uchod.
Cysylltwch gyda ni am apwyntiad.
Pan fyddwch yn mynd i’r Swyddfa Gofrestru, gofynnir i chi gyflwyno dogfennau penodol, yn dibynnu ar eich sefyllfa bersonol. Dylai’r dogfennau hyn fod yn ddogfennau gwreiddiol, nid llungopïau, a gallant gynnwys:
- Pasport dilys
- Tystysgrif Geni
- Trwydded yrru
- Tystiolaeth o gyfeiriad cartref (e.e. bil gwasanaethau / cyfriflen banc)
- Tystiolaeth o unrhyw newid enw (e.e. Gweithred Newid Enw / Datganiad Statudol)
- Archddyfarniad Terfynol o Ysgariad
- Tystysgrif marwolaeth diweddar wraig neu wr
- Os nad ydych yn 18 - llythyr gan eich rhiant/rhieni neu ofalwr(yr).
Bydd ffi yn daladwy ar gyfer pob rhybudd. Gweler y ddolen isod.
Uchod gellwch lawrlwytho Llawlyfr Dathliadau Ynys Môn. Nodwch: oherwydd natur y ddogfen yma, nid yw’n hollol hygyrch ac ni fydd modd defnyddio darllenwyr sgrin iw ddarllen.




